Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'R HWN YR UNWYn «YR ANNIBYNWR." ----------------------4»»»4------------------------ ' J»g4 |ator îtrairjog ar ü "$ar Mybob;' * [üyma hi, ddarllenydd, fel y traddododd yr hybarch awdwr hi am 6 yn yr hwyr yn nghyfarfod blynyddol yr Annibynwyr yn Abermaw, Ionawr 2il, 1832. Yr oedd capel eang y Methodistiaid Calfinaidd, yn yr hwn y cynelid yr oedfa, yn orlawn, a'r pregethwr yn ei hwyliau goreu, fel y dywedir. Er fod y patriarch- fachgen yn agos i bedwar ugain mlwydd oed, eto, mae yn edrych yn gryf a bywiog. Cawr ydyw mewn corff a meddwl. Dacw ef yn dringo grisiau yr ar- eithfa yn arafaidd, fel un yn teimlo baich ei genadwri. Darllena ei destun yn bwyllog a phwysleisiol, gan wasgu y meddwl allan o'r geiriau a'r brawddegau. Dengys yn fuan ei fod yn feistr perôaith ar ei waith. Dyma wir areithiwr—un wedi ei eni yn areithiwr. Mae efe yn siarad, nid â'r tafod yn unig, ond hefyd trwy ymnyddiadau ei gorff, symudiad ei freichiau, ysgydwad ei law, a chwareuad ei fysedd; a phan mae yn myned yn angerddol, mae fflachiad y llygad dysgleir- fyw yn llewyrchu ar y líygad tywyll, fel ag i beri i wefr teimlad by w drydanu y gynulleidfa. Weithiau, treiddia i lawr i ddyfnderau y gair, gan ddwyn i fyny berlau dysglaer, a'u dal o flaen y gynulleidfa. Bryd arall, eheda i fyny i uchel- derau yr aruchel ar adenydd eryraidd ei ddychymyg bywiog, gan gyfodi ei wrandawyr ar ei ol megys y tu draw i derfynau amser. Dyma un ar ei ben ei hun yn hollol—ni fu, nid oes, ac ni fydd ond un William Rees. Dymunwn am iddo gael aros eto am flynyddoedd i wasanaethu ei genedlaeth. Yr wyf yn ddy- ledus i'r Parch. R. H. Morgan, M. A. (M.C.), amgymeryd y bregeth i lawr niewn llaw fer. Drwy y gwasanaeth gwerthfawr hwn, yr ydym wedi cael y darlun goreu yn bosibl o Hiraethog yn yr areithfa.—EDMYGYDD.] " Gweddi Habacuc y prophwyd, ar Sigionoth. Clywais, O Arglwydd. dy air, ac ofnais: O Arglwydd, bywha dy waith yn nghanol y blynyddoedd, par wybod yn nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd."—Habacuc iii. 1, 2. Y baicii a welodd Habacuc y prophwyd ydyw yr ymadrodd cyntaf yn y brophwydoliaeth. Dwyn y baich hwnw. a chwyno llawer ö dan ei bwysau, y mae y prophwyd wedi bod o'r dechreu hyd yma, ac yn y geiriau a ddarllenwyd mae yn taflu y baich i lawr gerbron Duw niewn gweddi, ac yn troi i ganu y gàn ogoneddus sydd yn dilyn hyd ddiwedd y brophwydoliaeth. Un hynod iawn yn mysg prophwydi yr Hen Destament oedd y prophwyd hwn, Habacuc. Nid oes un crybwylliad unwaith am ei enw o'r blaen, ac ni chrybwyllir ei enw byth drachefn yn yr ysgrythyrau, ac nid yw yntau yn crybwyll enw un dyn a fuasai byw o'i flaen, na neb oedd yn byw yr un amser ag ef, megys pe na buasai wedi gwybod am nac Adda nac Àbel, na'r patriarchiaid, prophwydi, brenhinoedd, ac offeiriaid, ag y ceir llawer o hanes am danynt yn y Llyfr Santaidd; ac nid yw yn crybwyll enw yr un wlad na'r un ddinas, Jerusalem na Samaria, na Ninefeh, na Babilon, yr un • Yr ydym yn dra diolchgar am y bregeth ragorol hon, fel engraifffc fyw o Hiraefchog yn y pulpud, yr hyn na chafwyd mor gywir erioed o'r blaen.—Goi<. MAWRTH, 1882. G