Skip to main content

Y DYSGEDYDD: "a'b, hwk yu unwîd "yr annibynwr." (gan y parch. j. davies, jetwen, glandwr). " Er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr."—Philem. 9.* Cyfrifai Paul ei liun ar yr amser yr ysgrifenai y llythyr hwn yn hynaf- gwr, er nad oedd yn llawn triugain oed—tua 55 dichon. Yr oedd ein cyf- aill ymadawedig, Mr. D., a'ch hen weinidog chwi yma, yn llawer mwy oedranus, ac wedi treulio llawer mwy o amser yn y weinidogaeth. Heblaw mewn oed, gwnelai y ddau weinidog hyn wahaniaethu yn eu hardymeredd naturiol. Yr oedd Paul yn fwy nerthol a rhuthrus, yn gymhwys at rwystrau a pheryglon. Llifai ei waed yn gryf a chyflym, ac yntau o gyfansoddiad nad allasai fyw yn hir. Gwahaniaethent yn amser eu hymddangosiad yn y byd. Yr oedd yr holl fyd yn aros dan lywodraeth y Rhufeiniaid, pan y ganed ac y bu byw Paul, a Christiaeth yn ei babandod. Yr oedd y Ehufeiniaid yn ein gwlad ni y pryd hwnw; ond pan ymddangosodd hen weinidog yr egíwysi hyn yn y byd, yr oedd yr ymerodraeth Rufeinig wedi hir fyned hejteo, a Christ- iaeth wedi myned yn gawraidd a mawreddog, ac yn dylanwaau ar Ewrop i gyd, yn gystal a rhanau eraill o'r byd. Yn eu hieuenctyd, yr oedd gwedd grefyddèÜeu meddyliau yn gwahan- iaethu. Yr oedd Paul yn Pharisead manwl a selog, ond yn erlidiwr traws, eithr cydwybodol, o'r grefydd a'r eglwys Gristionogol, "pawb ag oedd o'r íFordd hòno." Yr oedd y llall yn grefyddol mewn ystyr Gristionogol er yn blentyn. Yr oedd eu perthynas swyddogol â'r efengyl yn gwahaniaethu. Yr oedd un yn bregethwr yr efengyl dan ddwyfol ysbrydoliaeth. " Nid gan ddyn y derbyniodd efe hi, neu y dysgwyd ef ynddi, ond trwy ddad- guddiad Iesu Grist." Ni wnelai ein cyfaill oedranus ni hòniiddo ei huny íith ysbrydoliaeth, ond ceisiai wybodaeth o'r efengyl yn y íFordd arferol, trwy fyfyrdod yn y gwirionedd, a thrwy weddi am arweiniad yr Ysbryd. Yr oedd ffordd a dull eu bywyd a'u gweinidogaeth yn gwahaniaethu. Yr oedd un yn bregethwr teithiol, ac nid yn teithio trwy un wlad yn unig, ond trwy lawer o wledydd; yr oedd y llall gartref, ac yn pregethu i'r un pobl, weithiau i'r Saeson, ond yn amlaf i'r Cymry. Mewn ystyriaethau eraill, tebygent i'w gilydd. Yr oedd y ddau yn * Cafodd y sylwadau canlynol eu traddodi ar Sabbath, Ionawr 24ain, 1875, yn Rhosy- caerau ac Abergwaun, ar yr achlyaur o farwolaeth y Parch. William Davies, gweinidog »yr eglwysi uchod am 57 o flynyddoedd. Bu farw Ionawr 4ydd, 1875, yn 90 mlwydd ,oed, yn gymeradwy gan Dduw, fel yr hyderwn, a pharchus gau ddyaion. Am hanea ei holl oes, gwel y Diwygiwr am Ionawr, 1876. Rhagfyb, 1877. z