Skip to main content

'J Y DYSGEDYDD: a'b hwn yk ünwîd "yr ahnibynwil." Jlbgofìûit am (Êntorgum. (gan y parcii. r. rowlands, treflys.) II. WILLIAM JONES Y CENADWR. Íe, mnadwr oedd efe yn ngwir ystyr y gair. Nid cenadwr am nad oedd ynddo dalent a gallu i fod yn weinidog sefydlog, ac ynbregethwr poblogaidd yn ]STghymru neu yn Lloegr; na, diau y gallasai fod yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol a'r pregethwr mwyaf poblogaidd yn y wlad. Clywsom lawer yn awgrymu oddeutu yr adeg pan yr oedd ein cyfaill ar derfyn ei efrydiaeth, mai gresyn oedd fod pregethwr mor dalentog a rhagorol yn myned yn genadwr—i dreulio ei oes at bagan- iaid tywyll ac anwybodus. Clywodd yntau hyny lawer gwaith y pryd hyny, ac hefyd pan ar ymweliad â'r wlad hon flynyddaru yn ol; ond nid oedd dim yn fwy annymunol ganddo na chlywed pobl yn awgrymu nad oedd angen gallu a thalent bregethwrol i fyned i'r maes cenadol. Ondcenadwr oedd ef mewn gwirionedd,ac uno'r cenadon mwyaftalentog a Uawnaf o athrylith a fu ar y maes cenadol erioed. Teimlwn mai gwaith anhawdd iawn ydyw ysgrifenu dim tebyg i gofnodion teilwng am y fath wr. Nid oes ond ychydig gymhorth i'w gael o un man— dim bron ond yr hyn a allwn gofìo am y rhan gyntaf o'i oes. Credwn y dylai fod rhyw ychydig o gofnodion am y fath genadwr enwog a defnyddiol—y fath areithiwr a phregethwr hyawdl ac athrylithgar—ar gof a chadw; a gwnawn ein goreu, dan yr amgylchiadau, i roddi i ddarllenwyr y Dysgedyüd fras-linelíiad o'ijfeanes. Os byth y dygwydd i'r darllenydd fyned yn y train o Machynlleth tua Cemmes Eoad—wedi myned tua thair a haner neu bedair milldir o station Machynlleth, edrycher tua'r gogledd, a gwelir pentref bychan Llanwrin yn nghesail y bryn, yn cael ei amgylchynu gan blanigfeydd o goed ffawydd; ac er nad oes unrhyw hynodrwydd yn y lle ynddo ei hun, eto, mae y ff'aith fod y pentref bychan hwnw wedi cael yr an- rhydedd yn mis Tachwedd, yn y flwyddyn 1831, o fod ynlle genedigol i'r anfarwol William Jones y Ccnadinr, yn ei wneud yn ddigon enwog i'r darllenydd syllu arno gydag edmygedd a dyddordeb pan yn myned heibio ar ei daith. Nis gallwn nodi y dydd o'r mis y ganwyd ef, ond yr ydym yn dra sicr mai yn mis Tachwedd yn y flwyddyn a nodwyd; canys ar yr unfedarddeg o'r mis dilynol (Rhagfyr) y bedyddiwyd ef yn Tachwbdd, 1877. i