Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'* hwn îr ünwîd "y& annibynwb," ^bgofîon am (Srttagioní. (gan y paroh. b. pàeey, llandüdno). I. WILLIAMS O'R WERN. Y byWGIíaffiad goreu o bob dyn ydyw y mynegiad ífyddlonaf o'r hyn a wnaeth. Dangos dyn yn ei waith ydyw y drych cywiraf y gellir edrych arno. Nid yw, mewn gwirionedd, yn ddim amgen na changen o hanesyddiaeth, mewn cysylltiad â dynion a'u hamserau ar gylch bychan. JSTid dychymyg am y peth y gallasai dyn fod dan amgylch- iadau neillduol; ond yn hytrach, y peth ydoedd, a'r hyn a fu; yr un modd ag y mae portread darluniadol yn ardeb o'r gwrthddrych a fyddo gerbron. Felly yr aincenir tynu darlun Mr. Williams yma. Y mae ei sylwadau, ei ymadroddion, a'i ymddygiadau, weithiau ar amgylch- iadau a ymddangosant ar ryw gyfrif yn ddibwys, yn gystal mynegai am ei gymerìad a'r hyn a ddangosodd i'r byd mewn achosion cyhoedd- us oedd yn tynu sylw pawb. Y mae amryw o'i ddywediadau ar gof a chadw gerbron y byd yn barod; a dichon fod llawer o addysgiadau pellach a eilir eu casglu oddiwrthynt, megys ei sylw ar "y tri cy- thraul," sef cythraul y canu, cythraul ííosod eisteddíeoedd, a chythraul dewis swyddogion eglwysig, y rhai nad yw ympryd a gweddi yn ddigon nerthol i'w bwrw allan. Bu raid i Mr. Williams ddyoddeí hyd y galon oddiwrth yr olaf o'r cythreuliaid hyn. Yr oedd bwriad yr eglwys ìle y llywyddai unwaith am ethol chwech o ddiaconiaid, yn ychwanegol at y rhai oedd yn y swydd yn barod. I'r dyben o roddi cyfeiriad i feddwl yr eglwys, ac i ragachub bod i'r aelodau redeg allan o derfynau priodoldeb yn eu dewisiad, a phenodi ar rai heb un math o gymhwys- der at y swydd, nododd ddeuddeg o bersonau, ac erfyniodd ar y bobl ddethol y chwech a farnent deilyngaf o honynt; ac mai y rhai y bydd- ai y nifer mwyaf yn pleidleisio drostynt a ddewisid. Felly fu, a'r can- lyniad annedwydd ydoedd i'r chwech a adawyd yn y lleiafrif droi allan yn elynion chwerw iddo ef, heb ei arbed â'r cableddau bryntaf. Dywedai un o honynt y goddefai ef y peth, ar yr amod fod i bender- fyniad gael ei ysgrifenu yn llyfr yr eglwys, na byddai i'r fath etholiad gael ei ddwyn yn mlaen yn yr eglwys hòno byth mwy, a'i atebiad ef iddo ydoedd, " 0! ai cymaint a hynyna wyt ti yn ei ddeall o Annibyn- HYDEBr, 1877, i