Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r HWX YR UNWîD "yr annibynwr." ^nerrfnab i i%f&xh%x gírerjjonbbtt, fjtffcrim, 1877. GAN Y PARCH. R. S. WILLIAMS, BETHESDA. Mae yn hyfrydwch mawr genym ddeall fod agwedd pethau yn eicli plith yn argoeli yn gryf y bydd dyfodol yr Athrofa hon mewn dylan- wad daionus i gyfnewùd y byd, a diwygio ei foesau, yn cyfateb i'w hanes dysglaer yn yr amser a aeth heibio. Ceir profion digonol yn nhystiol- aeth unfrydol uchel arholwyr dysgedig, fod addysg o'r radd flaenaf yn cael ei chyfranu a'i derbyn yma—ei derbyn, hwyrach, yn helaethach nag y bu er's blynyddoedd. A gwiriad o'r un peth ydyw llwyddiant y cyfeillion fu yn <matriculatio yn Llundain. Dysgwyliwn yr aros- ant yn yr Athrofa nes dyfod allan o arholiad y Brifysgol â nodau buddugoliaeth i'w canfod wrth eu henwau. Mae hefyd ysbryd pregethu wedi disgyn yn nerthol arnoch, ac yn cael meithriniad mor gyffredmol, fel na raid, pan ddelo cyhoedd- iad un o'r myfyi'wyr i'r eglwysi, ddweyd y bydd gwr dyeithr yno yn pregethu y Sabbath nesaf, er mwyn sicrhau cynulleidfa iddo. Mwy deniadol fydd cysylltu Aberhonddu âg enw y pregethwr ; ceir felly y dyrfa yn Uuosocach, a gwrandewir arno yn fwy astud. Er y dylid arfer gwyliadwriaeth na byddo ysbryd pregethu yn lleihau awch y meddwl at waith neillduol a phriodol yr Athrofa, bydd o werth an- mhrisiadwy i'r eglwysi iddo gael ei gadw yn iach a nerthol, canys " fe welodd Duw yn dda trwy fíblineb pregethu i gadw y rhai sydd yn credu." Mae y gair wedi cerdded yn mhell drwy holl ranau y wlad, fod amryw o honoch wedi esgyn yn uchel mewn poblogrwydd, yr hyn a rydd fantais fawr i chwi wneud daioni dros y G-waredwr, ac i ddyrchafu cymdeithas; ond ar yr un pryd a'ch gesyd yn agored i lawer o demtas- iynau a phrofedigaethau. Nid gwaith da a gyflawnir gan y rhai a geisiant anwybyddu (ignore) Pregeth boblogaidd. Mae y duedd naturiol sydd mewn dyn i beidio bod yn ol i eraill a gyflawnant yr un gorchwyl ag ef yn eithaf cyfreithlon, canys nid yw yn troseddu egwyddorion unioni|b; daw a gwelliantau newyddion i wahanol alwedigaethau bywyd, Wthry y cyfan yn y diwedd yn fantais a lles cyfìredinol i'r byd. Nid yw yn Uai cyfreithlawn mewn cysyllt- iad â'r pulpud, os cerir hi allan yn yr ysbryd ac oddiar egwyddor briodol, sef dangos y Ceidwad mewn trefn i fendithion iachawdwriaeth Aw«x, 1877. r