Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: A'e HWN YK ÜNWYD "YR ANNIBYNWE." 1 frŵnlen êxwtìoriBQûl (gan episcopos). "Yn wir meddaf i ehwi, Pa bethau bynag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhw) mo yn y nef; apba bethau bynaga ryfidhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhydd- hau )uy nef. '—Mat. xviii. 18. (a) Ymgyntjlla. pobl grefyddol ar adegau penodedig am eu bod yn eglwys, ac nid yn eglwys am eu bod yn ymgynull ar adegau penod- edig, Act. xiv. 27. Sefydliad dwyfol yw yr eglwys, ac nid trefniant tyfedig o duedd gymdeithasol dynion. Gall dynion drefnu sefydliad- au defnyddiol, ond ni fyddant yn ddwyfol; a'r dwyfol sydd i'w ddilyn mewn crefydd, ac nid y dynol. Dicbon i gân aderyn yn y boreu fod yn gymhorth i ddyn i addoli Duw; ond nid oes ganddo hawl, ar gyfrif hyny, i ddwyn adar i'r cysegr i ganu. Ar y llawT arall, mae yn bosibl iddo deimlo nad yw yn derbyn ílesad drwy y swper santaidd, ond ni rydd hyny ha,wl iddo i'w ddilëu o'r eglwrys. Y gorchymyn dwyfol, ac nid y duedd naturiol, sydd i'w ddilyn, hyd yn nod pan ymddangosa yr olaf yn fwy manteisiol na'r blaenaf. Gyda golwg ar eglwys, mae y ddau yn cydgordio â'u gilydd—crefa dynion duwiol am gydgynulliad, yn gystal ag íbd Crist wedi ordeinio hyny. Ond pe deuai dynion ryw- bryd i farnu y byddai yn fwy manteisiol iddynt beidio cyfarfod yn gynulliadau cyhoeddus, nid yw y gorchymyn dwyfol i roddi ffordd i'r farn ddynol—" Ar y graìg Iwn yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi? (b) Sefydliad cyfansoddiad newydd oedd sefydliad yr eglwys Grist- ionogol. Bu crefydd yn gwisgo y ffurf batriarchaidd ac Iuddewaidd cyn cymeryd y ffurf Gristionogol, nes y gellir dweyd ei bod wedi tyfu trwy dri chyfnod ymeangol cyn cyrhaedd ei dull presenol. Tyfodd o grefydd bersonol yn grefydd deuluol; ymledodd o grefydd deuluol yn greíÿdd genedlaethol, ac ymeangodd o grefydd genedlaethol yn grefydd gyfîredinol; oblegid nid oedd y person unigol yn cynwys y teulu, na'r teulu yn cynwys y genedl, na'r genedl yn cynwys y byd. Galwai pob ymeangiad terfynau am gyfnewidiad cyfansoddiad. Ehaid oedd cael cyfansoddiad teuluaidd i grefydd deuluol y patriarchiaid; cyfansoddiad cenedlaethol i grefydd gyhoeddus y genedl luddewig, a chyfansoddiad ysbrydol i grefydd gyffredinol y byd. Felly, mae yr eglwys Gristion- ogol yn <ulci eglwys fawr gyff'redinol, er yn ymranu i lu o fân-eglwysi, Maj, 1877. i