Skip to main content

Y* DYSGEDYDD: a'r HWX YR ÜNWYD "YR ANNIB7NWR." Ye ydyra yn gorfod treulio cynifer o ddyddiau ein Loes fer yn nghys- god dwfn a thywyll y gelyn mawr a chryf hwn i ddynolryw, fel y tynir ein sylw yn fynych, o'n bodd neu o'n hanfodd, at ei weinidog- aeth awdurdodol yn ein plith; ae y mae ysicrwydd sy genym y rhaid i ni oil yn fuan ymgrymu i'w deyrnwialen ddu, yn peri fotì yn natur- iol i ni fyfyrio yn mml ar ein symudiad o'r byd hwn i'r byd mawr a dyeithr sydd o'n blaen. Ni bydd i ni heddyw ond troi ein sylw at weinidogaeth angeu yn yr haner diweddaf o'r flwyddyn sy newydd derfynu, a chyfyngwn ein nodiadau at farwolaeth personau oeddynt yn dal perthynas â Gogledd €ymru yn neillduol. Pallai gofod ac amser i ni wneud ychwaneg na hyny yn bresenol. Yn ystoä y pum' mis diweddaf o'r flwyddyn a aeth heibio, bu farw Y Parch. Ishmael Jones o Eosllanerchrugog. Yr ydym yn ei enwi ef yn mlaenaf, oblegid iddo fod yn pregethu yr efengyl gyda yr Annibynwyr am dymor hir iawn. Oanwyd a magwyd ef yn y Rhos. Dechreuodd bregethu flynyddau lawer eyn i'r Parcb. William Williams adael yr ardal a myned i'r Tabernacl, Liverpool, i wTeinidogaethu. Bu yn yr ysgol am dymor gyda y diweddar Barch. John Hughes, Wrexham, y pryd hwnw, ac wedi hyny o Liverpool. Bu wedi hyny am dymor byr yn Athrofa Hoxton. Ýr oedd y diweddar Barch. Joím Jones, Common Hall Street, Caer, yn fyfyriwr yno ar yr un pryd ag ef. Clywsom Mr. Hughes a Mr. Jones yn adrodd gyda dyddordeb amryw o'i hynodion fel ysgolor a myfyr- iwr. Blinodd yn fuan ar yr athrofa, a dychwelodd i Gymru yn ol. Bu yn llafurio am dro yn Llansanan a'r Rhiw. Symudodd oddiyno i Fon, Ue y treuliodd lawer o flynyddoedd yn llafurio yn galed yn Hermon, y Groeslon, a Chana. Yr oedd pellder dirfawr rhwng y gwahanol addoldai oeddynt dan ei weinidogaeth, ac "ar droed erioed yr äi" ef; ond ni arbedodd ei hun, a bu cryn ^wyddiant ar ei ymdrechion. Symudodd oddiyno i Lanrwst; ond dychwelodd yn fuan i'w ardal ened- igol, lle y treuliodd weddill ei ddyddiau yn pregethu yma a thraw, fel y byddai galwad am ei wasanaeth. Daeth ei oes hir yutau i'w therfyn, a chladdwyd ef yn yr un fynwent a'i hen weinidog, Williams o'r Wern. Cawsom ni yr hyfrydwch o fod yn wasanaethgar iddo lawer blwyddyn yn ol, ac, mewn cysylltiad âg eraill, yn nyddiau ei henaint a'i wendid hefyd. Yr oedd yn dduwinydd da, a'i athrawTiaeth Chwefror, 1877. c