Skip to main content

Y D'YSGEDYDÜ' A» IWIf YR ITCíWYD "YB ÁNNIBYîiWlt. ^ ot& Jafol IsigrDÍ^roí gait g dhwitiûog i'to iuüog? (GAN Y PARCH. W. GBIFFITH, CAERGYBl). Dyna y gofyniad y ceisiwyd genyf ei ateb. Pe gofynid, A oes hawl ysgrythyrol gan weinidog i'w gyflog? ni fyddai raid ymdrafiferthu i ateb, am y rheswm nad oes neb yn amheu. Pa faint llai y dylid amheu pan ofynir, "A oes gan y gweinidog hawl? Y mae y fanod yn arwyddo nad gweinidog cyfíredin mo hono, ond anghyífredin. Y mae yn dysgu i ni fod rhyw fawredd ac ucheledd, rhyw hynodrwydd ac arbenigrwydd, yn perthyn iddo o herwydd ei swydd, ag sydd yn gwneud ei hawl, o gymaint a hyny, yn llai amheus na hawl unrhyw weinidog arall, pa unrhyw arall bynag a fyddo hwnw. Yr unig ofyn- iad y dyddiau hyn o barthed i weinidogion o bob galwedigaeth drwy y gwledydd, fychain a mawrion, ydyw, nid a oes ganddynt hawl i'w cyflog, ond, ai nid oes ganddynt hawl i ychwaneg nag erioed o'r blaen? Y mae hyn yn peri i mi radd o gyfyng-gynghor, a oes angenrhaid am ysgrifenu dim ar y mater. Ac os oes, y mae yn fy llwyr argyhoeddi mai ar fyr eiriau y dylid ysgrifenu. Yr wyf hefyd yn hyfach o beth i geisio gwneud hyny, o herwydd yr ymwybodolrwydd mai nid hunan-les a bâr i mi ymgymeryd â'r gorchwyl. Nid drosof fy hunan, nac er mwyn fy hunan, yr wyf yn dadleu. M fu dadleu ar y pwnc erioed yn ei berthynas â mi fy hunan. Y bobl y mae genyf yr anrhydedd o'u gwasanaethu, ni fu raid i mi erioed grýbwyll gair wrthynt yn nghylch y gyflog, na'i thalu na'i chodi ychwaith. Ac yn awr, yr wyf ar fin darfod am byth â phob gwaith a chyflog hefyd "dan yr haul." Ond a oes hawl ysgrythyrol? Atebwn yr holiad drwy holiad arall, " Beth a ddywed yr ysgrythyrf' " At y gyfraith a'r dystiolaeth: oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleuni ynddynt." Dywed yr .ysgrythyr fod y weiuidogaeth efengylaidd yn osodiad o eiddo Duw yn ei eglwys, ac yn un o brif roddion Mab Duw iddi "0 herwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i'r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. Ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid, ac yn athrawon." A dywed yr ysgrythyr hefyd yr un mor eglur fod y swyddogion eglwysig hyn i'w cynal gan yr eglwys. Y mae ganddynt hawrysgrythyrol i'w cyflog. Mae pedwar o'r pethau mwyaf pwysig yn unllais yn hawlio hyny, sef y Meistr, y Gwaith, y Cyfrif, a Chyfiawnder. Rhagfyr, 1876. z