Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." §r Jtmríjnab* A draddodwyd gan y Parch. R. Thomas, Bala, yn Nghymanfa Gyfredinol y Methodistiaid Caìfinaidd yn Abertawe. Anwyl Frodyr,— Dyina y tro cyntaf i mi íbd mewn cynadledd berthynol i umhyw enwad crefyddol beblaw yr un yr wyf fi fy hunan yn perthyn iddo; ond yr wyf fi yn teimlo yn lled gartrefol yma, yn enwedig wrth weled fy nghymydog parchus a goleuedig, Dr. Edwards, yn Uywyddu y cyfarfod. Yr ydyni ni wedi dyfod yma fel cenadon oddiwrth yr Undeb Cynulleid- faol Cymreig i gyfarch gwell i chwi, i ddatgan cariad yr Undeb tuag atoch, eu hewyllys da, eu dymuniad am eich Hwyddiant, ac i ddweyd dros y rhai a'n danfonodd, ''Duw yn rhwydd i chwi." Gellid tybied ar yr olwg gyntaf fod tipyn o wreiddioldeb yn ein cenadwri ni heddyw; ond nid oes ond ychydig o hyny yn perthyn iddi. Nid oes dim llawer o wir wreiddioldeb ar y ddaear hon. Duw yn unig a welaf fi yn meddu gwreiddiolder yn ystyr briodol y gair. ííhyw fenthyca oddiarno Ef y gwelaf fi ddynion yn bur gyffredinol. SJàm-feddylia dyn ei fod yn' cerdded rhyw lwybr newydd, os edrych efe yn fanwl, caiff weled ôl traed rhyw bobl eraill a fuont yn teithio y ffordd hòno o'rblaen. Felly ninau heddyw—rhyw ddynwared y Methodistiaid yrydym yn y mater hwn. Yn mis Awst diweddaf, }>an oedd yr Undeb Cynulleid- i'aol Cymreig yn cynal eu cyfarfodydd blynyddol yn Nhreffynon, gwelodd Methodistiaid swydd Ffiint yn dda "anfon gwŷr etholedig o honynt eu hunain"—dyniou o safle yn y Cyfundeb—nid amgen y Parch. Roger Ed- wards; y Parch. J. Pughj a'r Cyboeddwi', Mr. P. M. Erans, i gyfarch gwell i ni, ac i ddymuno llwyddiant ein Hundeb ieuanc. Y mae un tro da yn teilyngu un arall. Penderfynodd y Gynadledd hòno ein hanfon ni ein trioedd i gyí'arch gẃell i chwithau pan gaflem amser cyfaddas; a dyma yr amser cyfaddas hwnw wedi dyfod heddyw. Yr ydym yn mawrhau ein swydd. Ymddengys i mi, bob amser, y dylai f'od mwy o gydymgynghoriad, cyd- ymdeimlad, a chydweithrediad ìhwng y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig a'r Annibynwyr. Fe fu dadleuon miniog rhyngom yn yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol ar wahanol bynciau, ac yr oedd y pleidiau yn myned yn Hed bigog weithiau. Parodd hyny i'r pellder fwyhau rhwng y ddau enwad. Os awn ni i ddadleu eto, ac y mae hyny yn lled debyg o gymeryd lle, byddai yn burion i'r dadleuwyr ofalu am dori eu hewinedd yn Ued dda. Gresyn ydyw gweled dynion synwyrol ynrhoi yr ymresymu heibio i dynu gwaed o wythîenau eu gilydd, ac yn troi oddiwrth y pwnc mewn dadl i bardduo y * Da geuym i ni lwyddo i gael y copi ucbod o Anerchiad eiu cydulygydd i'w gyhoeddi yu y Dysgedydd.— Herber. Awst, 1876. r