Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*"^r~ YDYSGEDYDD a'r HWN YR T7NWYD "YR ANNIBYNWR." I %ubm 'Ëmûnoh (GAN y parch. j. alun ROBERTS, B.D., caernarfon). (Parhad.) Yk oedd ffurfiad yr eglwys yn Southwark yn cynwys mwy na gwrthdystiad yn erbyn diffygion ac arferion Pabaidd yr Eglwys Ẅladwriaethol; cynwysai hefyd ddatganiad croew o drefn wahanol o lywodraeth eglwysig. Proffesai y rhai oedd yn ei chyfansoddi eu bod, oddiar ymchwiliad manwl a gonest o air Duw, wedi eu hargyhoeddi, nid yn unig fod yr Eglwys Wladol yn sefyll inewn angen diwygiad, ond ei bod fel cyfundrefn eglwysig yn anysgrythyrol. Yr oedd ganddynt ddau ddosbarth o wrthwynebwyr—y Puritaniaid, y rhai a ddadleuent dros gael diwygiad oddiíewn i'r eglwys, a'r gallu gwladol, yr hwn a orfodai y wlad i gydnabod y pen coronog yn ben yr eglwys. Ym- resymai y Puritaniaid fod yr Ymneillduwyr (Separatists), trwy ymffurfio yn eglwys Annibyno], yn anflyddlon i'r Eglwysja hònai y goron fod sefydliady gyfryw eglwys yn myned yn uniongyrchol yn erbyn awdurdod yr orsedd. 0 dan yr amgylchiadau hyn, nis gallesid dysgwyl y byddai i'r eglwys Ym- neillduol fwynhau tawelwch i gario ei gweithrediadau yn mlaen; ac o her- wydd yr erledigaeth y bu raid iddi fyned trwyddo, gelwir M gan haneswyr— YR EGLWYS FERTHYREDIG. Yr adeg hon, fel y crybwyllwyd yn yr ysgrif flaenorol, yr oedd Barrowe a Greenwood yn garcharorion. Ymwelid â hwy yn fynych gan Buritaniaid, o dan gyfarwyddyd Esgob Llundain, i ymddyddan â hwy ar faterion perthynol i'r Eglwys, ac i goínodi unrhyw betb. a ddywedent yn anffafriol. Ond ni lwyddwyd i gael dim ganddynt y gallesid eu cyhuddo o hono, ond yn unig eu hymlyniad penderfynol wrth ddysgeidiaeth syml y Testament Newydd, o barthed i ffurflywodraeth yr eglwys Gristionogol. Pa fodd bynag, dygwyd y ddau i brawf, ar y cyhuddiad eu bod yn ceisio darostwng yr Eg- lwys, ac yn ymgyrhaedd at leihau awdurdod y goron. Yn ystod y prawf, hònent ya y modd mwyaf diamwys eu ffyddlondeb i'r goron fel deiliaid o'r llywodraeth; a gwnaethant gais taer a difrifol at y gyfraith am gael eu hamddiffyn fel y cyfryw. Ymddengys fod ganddynt fwy o ymddiried yn y gyfraith wladol nag yn yr High Commission Court—yn wir, amlwg y w fod hwn yn deimlad yn mysg yr Ymneillduwyr yn gyfiredinoí. lTn ystod y prawf, dangosodd Barrowe barch priodol i'r swyddogion gwladol, tra y gwrthodal hyny i'r swyddogion eglwysig. Pan y gofynwyd iddo beth ydoedd Esgob Aylmer, atebodd, "Ei enw yw Aylmer; maddeuer i mi am beidio ei osod allan fel blaidd, erlidiwr, a gwrthgiliwr," Dyna farn Barrowe GORPHBNAF, 1876. N