Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDY DD: a'r hwn YR UlîWYD "yr annibynwr." Jlittrcjria& ix Pgínrfcogr ÿcfogböioît A DDERBYNIWYD I'R ATHROFA ANNIBYNOL YN Y BALA YN MIS MAWRTH DIWEDDAF. Anwyl Frodyr,— Wrth weled fod yn ein plitb yma heddyw lawer o fyfyrwyr newyddion, yr wyf yn barnu na allaf wneuthur dim sydd well, na mwy priodol, na rhoddi ychydig o gynghorion caredig i'r cyfryw yn y sefyllfa newydd y maent ynddi yn bresenol; ac ni fydd hyny chwaith yn unrhyw golled i cbwithau, y rhai oeddych yma yn flaenorol. 1. Gofalwch yn ddyfal am eich iechyd. Diau genyf mai enill eich bywoliaeth y buoch hyd yn hyn " trwy lafur eich breichiau," fel y dywed- ir—rhai ar y meusydd, rhai mewu gweithfaoedd, a rhai fel celfyddydwyr; a chryn gyfnewidiad yw i chwi, yn lled ddisymwth, adael y cylchoedd yr arferech droi ynddynt, a chaethiwo eich hunain i ystafelloedd cyfyrg i fyfyrio Gramadegau Seisonig, Lladin, a Groeg, a phroblems Euclid, a llawer o bethau cyffelyb. Bjdd y fath gyfnewidiad, heb lawer o ofal, yn tueddu yn gryf i beryglu iechyd amryw o honoch. Mae iechyd yn bwysig iawn i bob dyn, ond mae yn neillduol felly i bregethwr. Mae yn hawddach i arnaeth- wr, i ôf, i saer, i fasnachwr, ac iagos bawb yn wir, gario eu gorchwylion yn ralaen, pan wedi eu dal gan afiechyd, nag ydyw i bregethwr yn y sefyll- fa hòno wneuthur hyny. Nid oes neb a ddichon weithio drosto ef ond i raddau bychain, a modd anmherffaith iawn'. Os tyr iechyd pregethwr i lawr, tyr pobpeth, agos, a bertbyn iddo ef i lawr ar yr un pryd. Ni all mwyach na darllen, na myfyrio, nac ysgrifenu, na thraethu ei feddwl gyda nemawr o gysur iddo ei hun na buddioldeb i eraill; abydd raid iddo, feallai, bwyso ar ei gyfeillion am gysuron cyíTredin bywyd, ac y mae hyny bron yn annyoddefol i ddyn o annibyniaeth meddyliol. Er mwyn diogelu ei iechyd, dylai myfyriwr godi yn foreu, gweithio yn ddiwyd yn oriau gweithio; mynu cael anadîu awyr bur ac iachus y wlad yn fynych; cadw ei feddwl yn rhydd, ac yn mhell oddiwrth bryder gormodol; peidio pendroni, fiynyddoedd yn rby fuan, yn nghylch pwy a gaiff yn wraig, pan na bo ganddo fodd i gadw aderyn bach, chwaithach gwraig; myned i orphwys yn amserol; a gofalu am gadw cydwybod ddirwystr tuag at€)duw a dynion. Gwrandewch ar rai o gynghorion Gwallter Mechain i'w gyfaill Dewi Silin gyda golwg ar ddiogelu ei iechyd. Bu Gwallter Mechain fyw nes oedd yn agos i naw a phedwar ugain oed, ac yr oedd yn astudiwr caled ar hyd ei oes, a gwyddai trwy brofiad am werth ei gynghorion. Parson Lianailin, yn swydd Dinbych, oedd Dewi, ac yn dyfod o deulu parchus a thalentog Darowain. Bu farw yn anterth ei ddydd. Ebai Gwallter Mech- ain mewn llythyr ato:— Mbhefin, 1876. l