Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'R HWN YR UNWYB <fYR ANNIBYNWR." fsírrgü nt §riobas6rí§, Dat. xxii. 17. (gan dewi mon). "Yr Ysbryd a'r Briodasferch." Beth sydd ni i olygu wrth y gwrth- ddrychau hynî Prin y mae yn angenrhéidioJ egluro. Maent yn adnabydd- us i bawb sydd yn hyddyeg yn y gyfrol santaidd. Cyfarfyddwn â hwynt ar wahan drachefn a thrachefn yn yr Hen Destament a'r Neẅydd; ac yma, cyfarfyddwn â hwynt gyda'u gilydd yn ymuno yn yr un erfyniad. "Yr Ŷsbryd." Pwy yw yr Ysbryd? Efe yw y trydydd person yn y Drindod Fendigaid. Dyma y Dyddanydd a addawai ein Harglwydd eí anfon at ei ddysgyblion wedi ei esgyniad i'r nef—addewid a gyfiawnwyd mewn duli mor effeithiol arddydd mawr y Pentecost—acoblegidhynygelwiryroruchwyliaeth bresenol yn oruchwyliaeth yr Ysbryd. "BuddioJ," meddai ein Hargîwydd mewn cyfeiriad at hyn, "buddiol yw i chwi,"—i chwi, fy nysgyblion—"fy myned i ymaith: canys onid ä'f fi, ni ddaw y Dyddanydd atoch: eithr os mi a äf, mi a'i hanfonaf ef atoch. A phan ddel efe, efe a argyhoedda y byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn." Mae i'r Ysbryd ei waith priodol mewn cysylltiad â'r eglwys yn gystal a'r byd. Gwaith yr Ysbryd mewn cysylltiad â'r eglwys yw ei goleuo, ei harwain, ei hamddiffyn, a'i santeiddio; gwaith yr Ysbryd mewn cysylltiad â'r byd yw ei gynhyrfu, ei ddeffroi, a'i ddWyn o farwolaeth pechod i afael â'r bywyd sydd yn Nuẁ. "T Briodasferch." Pwy yw y Briodasferchl Hi yw yr eglwys. Dan y gymhariaeth hon y mae Solomon yn canmawl yr eglwys yn nghân y Caniadau. Dan yr un gy- mhariaeth y maeJPaul yn llefaru am yr eglwys yn ei Lythyr at yr Ephesiaidj ac yn y llyfr hwn—llyfr y Datguddiad—cymerir i fyny y gymhariaeth dra- chefn, ac ymhelaethir arni yn mhellach—yma, yr eglwys yw priodasferch yr Oen—y briodasferch ddyweddiog, heb ei phriodi eto; oblegid ni chymer yr amgylchiad dedwydd hwnw le hyd oni chyfarfyddo y gwaredigion, yn dyrfa fawr nas dichon neb ei rhifo, o bob llwyth, iaith, a chenedl, gerbron gorsedd Duw yn nef y nefoedd. Y pryd hyny y bydd yr eglwys mewn gwir- ionedd yn "eglwys ogoneddus, heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw, ond yn santaidd a difeius,"—yn deilwng yn mhob ystyr o'f phriodfab bendigedig, ac o'r palas ardderchog a ddarparwyd iddi yn y bres- wylfa dragwyddol. Y mae y gymhariaeth ar unwaith yn brydferth, ey- nwysfawr, a phriodol. Gelwir yr eglwys yn briodasferch er dangos ei chariad angerddol at ei Cheidwad, er dangos cariad diderfyn y Ceidwad ati hithau, ac er dangos yr undeb dirgelaidd, cysegredig, ac anwahanadwy sydd rhyngddi hi a'r Ceidwad. Mai, 1876. i