Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'e HWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." ^iitttíniniactír a ŵfynbhmtjpbhitr. Sylwadau a draddodwyd yn Nghyfarfod Chwarterol Meirion, Hhagfyr 14, 1875. (GAN Y rARCII. TIIOMAS LEWIS, B.A., BALA.) Nid oes un cyfnod yn hanes yr eglwys yn dangos ruwy o sel grefyddol, o frwdfrydedd teimlad, a chydweithrediad calonog, na'r cyfnod hwnw geir o hanes yr eglwys gyntefig ya llyfr yr Actau. Yraddengys hyn yn amlwg iawn yn dra chynar ynddo, sefynyr ail benod, lle y dywedir iddynt "werthu Cu meddianau a'u dâ, a rhauu i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb." Yr oedd "y rhai a gredent oll yn yr un man, a chanddynt felly bobpeth yn gyffredin." Y mae yr un brwdfrydedd a'r un cydweithrediad o dan wa- hanol agweddau yn hynodi ei gweithrediadau o'r dechreu i'rdiwedd. Mae hyny hefyd yr un mor amlwg yn y cyfeiriadau achlysurol geir yn yr epistol- au. Ni gawn yma yn mhob man y cydweithrediad mwyaf egnîol yn ngwyneb erledigaethau ac anhawsderau fyrdd. A'r fechan yn raddol yn fil, ie, yn filoedd lawer, a'r wael yn genedl gref; ei gelynion hi a wisgir â chywilydd, arni hithau y blodeua ei choron. Y gotyniad naturiol yma ydyw, Pa un oedd y ffurflywodraetb hòno, o dan bi un y cynyrchwyd y fath undeb a chydweithrediad? Credwn yn sicr taw'r Gynulleidfaol oedd. Dwy egwyddor fawr Cynulleidfaoliaeth ydyw, 1. Fod un gynulleidfa o gredinwyr yn cyfansoddi eglwys yn yr ystyr sydd i'r gair eglwys yn j Testament Newydd. 2. Fod gan y cyfryw eglwys hawl i ddewis ei swydd- ogion ei hun, ac i drefnu yr oll o'i materion ei hun. Gwelwn wrth ddar- llen hanes yr eglwys, yn gystal a'r Testament Newydd, ei bod hi yn gyfryw yn ei flurfiad cyntaf, ac iddi barhau yn gyfryw am dymor maith wedi hyny yn Gynulleidfaol o ran ei chyfansoddiad. Nid y ffurf Babyddol oedd yr hon a gymerai y mae'n ddigon anilwg. Nid oes, mewn gwirionedd, yn y Testament Newydd ddim ag sydd yn cefnogi syniad gwreiddiol Pabyddiaeth. Nid oes brawf o fath yn y byd i Pedr erioed fod yn Rhufain, chwaithach ei fod yn Esgob y lle hwnw. Nid oes genym brawf yn y byd ei fod yn meddu awdurdod ar yr apostolion eraill. Tystiolaeth bendant y gair yw, fod yr eglwys wedi ei sylfaenu "ar sail yr apostolion a'r prophwydi." Nid oes genym sail o un math i gredu ei fod yn meddu hawl i drosglwyddo i eraill yr awdurdod hòno, pe meddai y cyfryw. Pe meddai awdurdod debyg i'r un yr hòna y Pabyddion ei fod yn feddu, a phe buasai iddo drosglwyddo hòno i'w ganlynwyr, buasai esgobion cyntaf HhufaÌD, wrth reswm, yn ei meddu ac yn ei harfer. Ond nid oes genym hanes mewn modd yn y byd iddynt ei harfer na'i hòni. Graddol y tyfodd yr arglwyddiaeth fedda ac a hòna'r Pab yn awr ar yr esgobion eraill. Mawredd cyfoeth aphwysigrwydd gwleidyddol a masnachol "arglwyddes y Mawrtií, 1876. k