Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." % ararc jfafor. (gan y parch. dr. w. rees, caer.) Torodd y daran fawr allan uwchben tref Markefc Drayton, sir Amwythig, ar y Sul, Hydref lOfed, yr hon a gynbyrfodd ac a siglodd y lle drwyddo. Yr oedd y trigolion wedi gweled a chlywed arwyddion fod tyrnhestl gerllaw, ac ymgasglasant at eu gilydd i'r eglwys yn y dref y bore hwnw yn bryd- erus iawn eu meddyliau yn nghylch yr hyn a gredent ei fod ar ddjfod. Yr oedd, o leiaf, meddir, 1,500 o bobl wedi ymgynull yn nghyd i'r fglwys ar y pryd. Yr oedd y gair wedi myned allan fod y Parch. George Chute, M.A, Eglwyswr efengylaidd, yr hwn a ddaliasai fywioliaeth Eglwysìg Maiket Drayton am dros ugain mlynedd, ar fedr rhoddi ei le i fyny, ac ym- gilio o'r Eglwys, a dysgwylid y buasai yn hysbysu hyny, ac yn rhoi ei res- ymau dros wneud felly y bore hwnw; ac ni siomwyd eu dysgwyliadau. Nid ydym yn cofio am un clerigwr a ymadawodd o'r Eglwys Sefydledig erioed o'r blaen a lefarodd mor aruthrol gryf yn ei herbyn wrth droi eì gefn arni ag y gwnaeth Mr. Chute ar yr adeg hòno; ac ni lefarodd un Ymneillduwr ychwaith un amser mor groch ac mor gryf yn erbyn yr Hen Fam. Yr oedd megys nerth " Lleferydd y saith doran," yn nharan Maiket Drayfccn, a dyma y lleferydd.— y testun oedd, 2 Cor. xi;i. 11: " Bellach, frodyr, bydd- wch wych. Byddwch berffaith, dyddaner chwi," &c. Ar ol ychydig o rag- ymadrodd, dywedodd:— " Y mae yn sicr y bydd i'r pulpud hwn yn fuan gael ei lenwi gan un a gyhoedda athiawiaeth&u hollol gioes i'r rhai a bregethais i i chwi—gan un a bregetha athrawiaethau a wadant waith yr Ysbryd G an, ac ail ddyfodiadyr A.rglwydd. O! bydd yn hollol wahanol, mor bell ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin, i'r gwirioneddau a draddodais i chwi. Os pT eg^thais i y gwir- ionedd, bydd pregethiad y llall yn gyfeiliornad; gwirionedd Duw yw y naill, celwydd Satan yw y llall; y mae un yn achub ac yn dyrchafu yr ena'd. i'r nefoedd, y raae y llall yn ei wasgu ac yn ei suddo i uffern. Y mae peth- au yn awr wedi dyfod i'r fath agwedi a chyflwr yn Eglwys Loegr fel y mae hi yn gwbl wrthgiliedig, gan droi oddiwrth y gwirionedd; ie, yn y cyflwr hwnw, gyda golwg ar yr hwn y dywed yr Arglwydd, 'Dtuwch allan o honi fy mhobl i, fel na byddoch gydgyfranogion o'i phechodau hi, ac na dderbynioch o'i phläau hi,'—fel na byddoch gydgyfranogion o'i heilun- addoliaeth hi, ei badenedigaeth yn medydd, ei hathrawiaeth o draws-syl- weddiad, ei gwedd'iau ar Fair Forwyn, ei hymgyfathrachaeth â'r Pab—gwir ddelw y bwystfil yw hi, cyfansawdd o Babyddiaeth ac aelod o butain Babilon. ( Deuwch allan o honi hi, ac na fyddwch gydgyfranogion o'i hathrawiaíth- au twyllodrus, fel na ddeloch i'w cbywilydd a'i gwarth.' Y mae ei gwrth- giliad yn prysuro i lawn addfedrwydd, ac yn llenwi Lloegr âg athrawiaeth- au gwrthwyneb i air Duw. Rhaofyr, 1875. z