Skip to main content

Y D Y S G E D Y I) D a'r hwn yr unwyd "yr anstibynwr." gmoaobiab gr %Itogs ar ÜPûrggau Cüíjoeüûtts- Pregeth a draddodwyd yn Nghyfarfod Blýẁyddul Cymanfa Ddirweatol ac Ataliul Deheudir Cymru, a gynaliwyd yn Aberdar, Gorphenaf 1-íîj aV IdfeJ, 1375. (gan y parch. j. thomas, liverpool). "Ac wedi gorphen hyn i gyd, holl Israẁl, y rhai oedd bresenol, a aethmt allan i cldinaa- oedd Judah, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddystrywiasaut yr uchelfeydd a'r allorau allan o holl Judah a Benjaruin, yn Ephraim hefyd a Manasseh, nes eu llwyr ddifa- lna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i'w feddiaut, i'w dinasoedd," 2 Cron. xxxi. 1. Mae y testun yn cynwys adroddiad o ganlyniad llwyddianus y pasg cyutaf, a gynaliwyd ar ddechreuad teyrnaaiad y brenin duwiol Hezeci*h. Yn ddioed wecü ei esgyniad i'r orsedd, dechreuodd ddiddymu eilunaddoliaeth, ac adfer gwasameth crefyddol y gwirDduw. Yr oedd y pasg cyn hyn wedi ei hir esgeuluso; ond y mae Hezeciah yn penderfynu ei adferuj ac er nad oedd ar yr amser arferol, ac nad oedd yr holl buredigaethau gofynol yn caei eu cadw yn fanwl, eto, yr ydoedd y fath basg, na welwyd yn Jerusalem ei gyffelyb "er dyddiau Solomon, mab Datydd, brenin Israel." Ni fwriedidei gynal ond am saith niwrnod, ond cafodd y bobl y futh hwyl ynddo fel yr eatynwyd ef am saith niwrnod eraill, ac felly parhaodd yr wyl am bedwar diwrnod ar ddeg, a " chynaliwyd hi gyda llawenydd mawr," " u'r oífeiriaid a'r Lefiaid a gyfodasant ac a fendithiasant y bobl; a gwrandawyd ar eu llef hwynt, a'u gweddi hwynt a ddaeth i fyny i'w breswylfa Ef i'r nefoedd." Disgynodd y fath ysbryd diwygiadol ar y bobl ar yr achlysur, fel y pender- fynasant cyn dychwelyd adref fyned allan i ddinasoedd Judah, a gwneud llwyr ddinystr ar yr holl leoedd a'r offerynau yn a thrwy y rhai yr oedd addoliad i'r eilunod yn cael ei gario yn mlaen; a bu y dinystr mor etìfeithiol "yn holl Judah a Benjamin, yn Ephraim hetyd a Manasseh, nes eu Uwyr ddifa;" ac yr oedd y bobl mor awyddus i hyn, fel y mynasantei gyflawnicyn dychwelyd o honynt "bob un i'w feddiant, i'w dinasoedd." Dyma bobl wedicael mwynhad uchel crefydd yn dechreu o ddifiifar waith crefydd. Mae yr amgylchìad yn dangos yn eglur fod pob mwynhad crefyddol i derfynu mewn diwygiad ymarferol, Mae pawb am fwynhad crefydd, ac nid ydynt i'w beio am hyny; oblegid gan grefydd y mae y mwynhad uchaf; ond y mae mwynhad crefyddol heb gyrhaedd ei amcan, os heb ein cyffroi i weithgarwch ychwanegol. Mae ein gwleddoedd breision i fod yn gyfnerth- ion i gyflawni ei dyledswyddau anhawdd. Nid yw crefydda yn unig er mwynhau ond pyniad hunangeisiol, hollol anghydweddol â nodwedd hunan- ymwadol Oristionogaeth. Dylai yr holl fwynhad a geir gael ei droi yn gymhelliad i ddiwygiad. Yr oedd uchelwyliau crefydd yn rhoddi mwynhad mawr i'r genedl gynt. Ymdyrent i Jerusalem o gyrau eithaf y wlad, gan ddwyn eu hoffrymau i'r Arglwydd gyda llawenydd; ac yr oeddgan filoedd o honynt adgofion melus am Jerusalem ai ddydd yr uchelwyl. Ond yma, y Tachwbdd, 1875. i