Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Crtafobfoür Cnfnotmu—Jibrafram ÿintoítr. (YrAil Erthygl). Yn ein hysgrif flaenorol, dilynasom y diweddar Arlywydd drwy amgylch- iadau ei fywyd anghyhoedd, a gadawsom ef yn nechreuad gyrfa o gyhoedd- usrwydd mawr a chynyddol. Yr ydym yn awr yn dychwelyd at y gor- chwyl a gymerasom mewn llaw, er i ni gael ein gorfodi i'w roddi o'r neiildu gan amgylchiadau a drethent ar ein hatuser dros amryw fisoedd. Yrn 1834, cynygiodd Mr. Lincoln am aelodaeth yn Neddfwrfa ei Dalaetb, ac etholwyd ef y tro hwn. Dyna ddechreuad ei fywyd cyhoeddus fel gwlad- weinyddwr. Yn 1836, etholwyd ef drachefn yn un o'r saith a ddewiswyd i gynrychioli swydd Sangamon. Yn y tymor hwnw, penodwyd ef i fod yn aelod o Bwyllgor y Cyllid. Yr oedd ei apwyntiad i wasanaethu ar Bwyll- gor Cyfrifon cyhoeddus yn y Senedd-dymor blaenorol, a'i ddiwydrwydd a'i ddyfalwch yntau yn y swydd hòno, wedi ei gymhwyso i lanw ei gylch ar Bwyllgor y Cyllid. Pan oedd eì gyfeillion ac yntau yn chwilio am bleid- leisiau er sicrhau ei etholiad yn 1836, daeth gwr a ystyiid braidd yn bwysig drwy New Salem, a dywedodd, " Ei fod efyn gwybod am ffeithiau, y rhai, pe buasai yn eu hysbysu, a lwyr ddinystriasent obeithion Mr. Lincoln ac un arall am gael eu hethol yn aelodau o'r Ddeddfwrfa, ond na hysbysai hwynt, am ei fod am ddangos ftafr i'r ddau ymgeisydd." Pan glywodd Mr. Lincoln hyny, ysgrifenodd lythyr at y Milwriad a ddywedasai felly, a phwysodd aino i gyhoeddi yr oll a wyddai, am y buasai ei ffafrio ef a'i gyd- ymgeisydd yn anghyfiawnder â'r cyhoedd; ond ni ddaeth dim i'r golwg, a hyny am nad oedd dim i ddyfod. Yn 1836 y daeth Mr. Lincoln yn gydnabyddus am y tro cyntaf â Mr, Donglas, yr hwn a gyfaríu ef wedi hyny mewn aml frwydr ddadleuol gy- hoeddus ar bynciau mawrion y dyddiau hyny, sef caethiwed a rhyddid mewn gwahanol agweddion a chysylltiadau, a'r hwn hefyd a orchfygwyd ganddo yn drylwyr. Er galluoced gwr oedd Douglas, cafodd wybod drwy brofiad fod dyn oedd yn meddu gallu mwy na'r eiddo yntau yn byw yn Nhalaeth Illinois. Yn 1838, etholwyd Mr. Lincoln am y drydedd waith i Ddeddfwrfa ei Dalaetb. Efe oedd arweinydd y blaid Ryddfrydol yn y Ddeddfwrfa; a phan bleidleisiwyd ar y cwestiwn pwy a gaffai y swydd o Lefarydd yn y Ty; caf- odd Mr. Lincoln bleidlais y Rhyddfrydwyr yn gyffredinol, ac un bleidlais oedd rhyngddo ag enill cadair y Llefarydd. Etholwyd ef y bedwaredd waith yn aelod o'r Ty Deddfwrol yn 1840; ac erbyn hyny, yr oedd ei ddy- lanwad fel areithiwr cyhoeddus a deddfwneuthurwr, wedi cynyddu yn ddir- fawr yn y dalaeth. Derbyniasid Mr. Lincoln i blith bargyfreithwyr ei wlad yn 1836, ac astudiodd gyfreithiau yr Unol Daleithiau yn galed ac Hydref, 1875. t