Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yb annibynwr." |r is rt êtomìfy, (gan y parch. j. thomas, liverpool.) [Darparwyd y bregeth uchod ar gais Pwyllgor " Undeb yr Annibynwyr Cymreig;" ond o ddiffyg amser, ni phregethwyd hi ar yr adeg apwyntiedig; ond traddodwyd hi ar foreu dydd diweddaf y cyfarfod.] "Y prophwyd sydd a breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a'r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr ûs wrth y gwenith? medd yr Ar- glwydd. Onid yw fy ngair i megys tân? medd yr Arglwydd; ac fel gordd yn dryllio y graig," Jeb. xxiii. 28, 29. Mae cyffelybrwydd mawr yn amgylchiadau Eglwys Dduw yn mhob oe8. Nid yn unig y mae ganddi yr un gelynion allanol i ryfela à hwy, ond y mae ganddi hefyd yr un rhwystrau mewnol i ymladd yn eu herbyn. Nid oes dim wedi peri mwy o flinder i'r eglwys o'r dechreuad na'r gau-athrawon sydd wedi ymlusgo iddi, y rhai a ddywedant, " Yr Arglwydd a'n hanfon- odd," " a'r Arglwydd heb eu hanfon hwynt." Masnt fel bleiddiaid blin- ion heb arbed y praidd. Mae y benod hon yn cynwys cwyn difrifol yr Arglwydd yn erbyn gau-brophwydi Israel, "y rhai a lefarent weledigaeth eu calon eu hun, ac nid o enau yr Argiwydd." Parent i bobl yr Arglwydd gyfeiliorni, tristäent galon y cyfiawn trwy gelwydd, a chryfhäent ddwylaw y rhai annuwiol fel na ddychwelent o'u ffordd ddrygionus. Bu agos iddynt dori calon Jeremiah â'u rhagrith a'u celwydd. Ond y mae yr Arglwydd yma, er calonogi Jeremiah, yn eu cymeryd yn ei law ei hun. Yr oeddynt ♦wedi myned mor bell yn eu rhyfyg, nes addef mai breuddwydion eu calon eu hun a draethant; ac ymffrostiant yn hyny, gan ddywedyd, "Breuddwydiais, breuddwydiaisj" ond y mae yr Arglwydd gydag eiddigedd santaidd, yn troi arnynt, gan ofyn, " Pa hyd y bydd hyn yn nghalon y prophwydì sydd yn prophwydo celwydd? îe, prophwydi hudoliaeth eu calon eu hun ydynt. Y rhai sydd yn meddwl peri i'm pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion, a fynegant bob un i'w gymydog, fel yr anghofiodd eu tadau fy enwer mwyn Baal." "Yprophwyd sydd a breuddwyd ganddo, myneged íreuddwyd"— myneged ef fel breuddwyd, ac na hòned fwy o awdurdod a phwysigrwydd iddo nag a berthyn i freuddwyd. " A'r hwn y mae ganddo fy ngair; llef- ared fy ngair mewn gwirionedd." Yr hwn sydd wedi derbyncenadwrioddi- wrthyf fi, llefared hi fel y dylai fy ngair i gael ei lefaru—" Beth yw yr ûs wrth y gwenith?" Beth yw ûs breuddwydion y prophwydi hyn wrth wenith pur, pwysig, a sylweddol fy ngairî " Onid yw fy ngair i fel tân,'r yn ei allu a'i ddylanwad, " ac fel gordd yn dryllio y graig," yn ei nerth a'i awdurdodî Medi, 1875. r