Skip to main content

Y DYSGEDYDD A'R HWN YR UNWYD aYR ANNIBVNWR." 2 Jifotbbar §arclj. <S. Cîmumbs, f orẃ, §fo2ô2ÍyItí)t. (gan y parch. henry rees, caer). (Parhad). Yr ydym yn barod wedi awgrymu íbd ein cyíaill wedi cyfarfod â gofid- iau. Nid yw gweinidog yr etengyl, mwy nag ereill, yn dianc trwy y byd. heb ei ofidiau; ond y mae ei ofidiau mwyaf ef yn aml yn tarddu oddiar ei gysyìltiadau gweinidogaethol, y rhai, ar ryw olwg, y gallesid dysgwyl iddynt fod yn flynonau o gysur digymysg iddo. I lawer un, ymae dydd ei ordeiniad i'r weinidogaeth yn ddydd genedigaeth i ofidiau a blinderau o'r fath chwerwaf; a phe gallai eu rhagweíed hyddai raid i ddyn, cyn y mynai osod ei hun yn eu cyrhaedd, fod yn "rhwym yn yr ysbryd," íel yr oedd yr Apostol Paul pan oedd a'i fryd ar fyned i Jerusalem, er bod yr "Ysbryd Glan yn tystio iddo yn mhobdinas fod rhwymau ablinderau yn eiaros"yno. Fel y gwelir yn llythyr Mr. Williams, llafuriodd Mr. Edmunds yn galed i leihau y ddyîed oedd ar gapel Salem, a llwyddodd hefyd i symud y rhan fwyaf o'r baich. Yr oedd adeiladu capel Salem yn ychwanegiad dirfawr at ei lafur mewn ffordd arall, canys yn ystod misoedd yr haf, pregethai yn fynych bedair gwaith ar y Sul—unwaith yn Saesoneg a theirgwaith yn Nghymraeg, yr hyn fuasai yn galed-waith i ddyn o gyfansoddiad cawraidd, chwaithach i un o gyfansoddiad gwanaidd fel yr eiddo ef. Eto, ni chlywid ef byth yn cwyno o herwydd gormodedd o lafur, ond gweithiai yn mlaen yn hollol ddirwgnach ac yn hollol ddifost, fel pe na byddai yn gwneud dim allan o'r ffordd gyffredin. Ond er hyn oll, dygwyddodd iddo ef, fel i aml weinidog da i ìesu Grist o'i flaen, gael ei glwyfo yn nhy ei garedigion. Carasem fyned heibio i'r gofid a gafodd yn nglŷn âg eglwys Salem heb ei grybwyll, ond teimlwn fod cyfiawnder â choftàdwriaeth ein brawd yn galw arnom i wneud sylw o hono. Ymddengys i eglwys Salem—wedi ei dwyn yn rhydd, drwy lafur y gweinidog yn benaf, oddiwrth j rhan fwyafo'r ddyled oedd yn gwasgu arni—ddechreu anesmwytho ac anfoddloni o herwydd nad oedd gan Mr. Edmunds y "floedd" a'r "gân" sydd mor ddymunol a phwysig gan lawer, fel nad yw yr efengyl yn y purdeb a'r eglurdeb mwyaf "ondy manna " yn eu golwg, os na chyflwynir hi iddynt gan bregethwr fyddo "fel cân cariad un hyfrydlais ac yn canu yn dda." Yn sicr, nifynai neb synwyrol ddibrisio y gallu i floeddio a chanu, na diystyru pregethwr am ei íod yn meddu arno. Teimlir gan bawb mai gallu gwerthfawr iawn ydyw, ond ei ddefnyddio yn gyfreithlawn, drwy ei gadw yn ddarostyngedig i wasanaeth yr efengyl. Dywedir am un pregethwr enwog (Whitfield, onide?) y gallai waeddi y gair " Mesopotamia" gyda'r fath nerth a phereidd-dra nes Awst, 1875. p