Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'$ HWN YR UNWYD "îR ANNIBYNWR." gr f w ^lbcrtjpu 'àt SUrcrtíj Értst. (GAN Y PAÍICH. W. EYANS, ABERAERON). "0 herwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i'r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynaist, eithr corff a gymhwysaist i mi. Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost foddlawn iddynt. Yna y dywedais, "Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechreu y llyfr am danaf), i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw," Heb. x. 5—7. Mae y geiriau hyn yn ddyfyniad o lyfr y Saltnau, er cadarnhad i'r hyn a ddywedir yn yr adnodau blaenorol am natur a dybenion yr hen aberthau. Gwedi dangos na ddarfuasai yr aberthau hyny berffeithio dirn, ac mai cysgod daionus pethau i ddyfod oeddynt, mae yr apostol \n dangos yn y testun mai nid peth newydd oedd hyny—nid peth dygwyddiadol oedd i'r gyfraith hòno brofi ei hun yn anefÌeithiol i ddilè'u pechodau. Yr oedd yr Hen Destament wedi rhagddweyd hyny yn foreu iawn; a phe deallasai yr hen genedl ei hysgrythyrau ei hun, ni syrthiasai i'r fath gyfeiìiornad am na- tur a dybenion eu haberthau. Ni amcanwyd hwynt i fod yn ddim amgen nachysgodau a rhagarwyddion o bethau gwell. Yn yr ymadroddion hyn o'r Salman, cawn dystiolaeth Mab Duw ar y mater,—nid wedi ei ym- gnawdoliad, pan yn cael ei wadu gan ei genedl, ond pan yn addefedig a dysgwyliedig, "wrth ddyfod i'r byd," ar y ffordd yn dyfod, a thra yn bell, oesau cyn ei ymddangosiad. Dywedai ei fod yn dyfod i wneuthur ewyllys Duw, yr ewyllys y methodd yr hen aberthau a'i chyfiawni. Dywedai nad oedd yr aberthau hyny wedi rhoddi boddlonrwydd ar ran pechod dyn. "Aberth ac offrwm nis mynaist, ac nid ymfoddlonaist ynddynt." Dywed- ai fod ei enw ef yn ysgrifenedig yn nechreu, neu, yn rhòl y llyfr, sef yr un cyntaf erioed —y datguddiad blaenaf oddiwrth Dduw, fel un oedd i ym- ddangos ar y ddaear, yn nghyflawnder yr amser, i ddilëu pechod drwy aberthu ei hun, a thrwy hyny gyfiawni ewyllys Duw, ac agor fí'ordd maddeu- anti'rbyd. "Wele, yr wyf yn dyfod," dyma swm yr holl ragfynegiadau am dano ef, adsain o'r geiriau hyn oedd yn rhedeg drwy yr holl aberthau a'r prophwydoliaethau; nid oedd modd iddo ddyfod heb ei ddysgwyl. "Wele, yr wyf yn dyfod," a gerddai trwy'r oesau, o addewid Eden i lawr at brophwydoliaeth Malachi, am "Haul cyfiawnder." Dyma oedd ei iaith ef ei hun, a dyma oedd iaith ei Ysbryd ef yn llefaru yn y rhai oll a ragfynegasant am dano. Y cymhwysiad yw, fod yr Arglwydd Iesu Grist yn wir aberth dros bechodau y byd, a bod ei aberthiad ef yn derfyniad i oruchwyiiaeth yr hen aberthau. Cymerwn olwg ar y naill mewn cyfer- byniad i'r llall—diffygion yr hen aberthau, a pherffeichrwydd aberth mawr yr efengyl, er mantais i ddeall natur yr olaf. Sylwn— I. AR ANALLU YR ABERTHAU YN OL Y GYFRAITH I WNEUD IAWN DR08 BECHOD A CHYFLAWNI EWYLLYS DüW. 1. Yr oeddynt yn ddifygiol o el/enau gwir ujudd-dod. Dyma beth Ebrill, 1875. g