Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r IIWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." " ẅriwbopott Cìimljte jr fcstammt g(.efoi)bb." (gan diaconos.) Nid yw y ffaitli ein bod yn anfon ysgrif dan y penawd uchod i gyhoeddiad a berthyna i enwad neillduol, yn un prawf ein bod yn ystyried gweinidog- ion yr enwad hwnw yn fwy anghyrnhwys na gweinidogion rhyw enwad arall. Nid oes ynom allu na tbuedd i gymharu rhagoriaethau gweinidogion y naill enwad â rhagoriaethau gweinidogion y lla.ll; ond pe cymerai rhywun, heblaw y rbai a ymbyfrydant mewn gwneud cyferbyniadau personol, at y gorchwyl o fantoli ein gweinidogion â gweinidogion unrhyw enwad yn Ngbymru, credwn na fyddai achos i ni ofni y canlyniad. Felly, nid ym- wybyddiaeth o wendid cymharol ein gweinidogion, wrth edrycb arnynt yn ngoleuni gweinidogion yr oes hon, nac hyd yn nod yr oesau blaenorol iddi, a'n cymhellodd i ysgrifenu ar y testun uchod. Dywedwyd wrthym gan gyfaill yn ddiweddar fod enwogion y weinidogaeth er's tua haner can' mlynedd yn ol yn cael eu nodweddu gan sel ac ymdrech i ledaenu yr achos- ion crefyddol,—gan wybodaeth ac addysgiaeth dduwinyddol o radd uchel, achan ddoniau swynol fel pregethwyr; ac er fod ôl eu gweithgarwch i'w gan- fod yn bresenol yn yr afael nerthol sydd gan ein henwad yn y gwahanol ardaloedd y buont yn llafurio ynddynt, fod y dduwinyddiaeth iachus a gyf- ranent wedi ei hesgeuluso yn fawr, a'r chwaeth at gerddoriaeth a gynyrch- odd eu Ueisiau perörol wedi tyfu yn elfen bwysig yn ffuríiad ein cenedl yn genedl gerddorol. Yn ol ei farn ef, talentan llenyddol a barddonol oedd yn benaf yn sicrhau enwogrwydd yn yr oes ddiweddaf, fel y cododd llu mawr o enwogion, gan ddyrchafu safon ein llenyddiaeth, a gadael eu gweith- iau gorchestol yn gaffaeliad gwerthíawr i'n cenedl; ond fod yr ymgais i gyrhaedd yr un enwogrwydd, gan lu o ddynion bychain eu talentau, wedi llanw y wlad â chrachlenorion a mân Eisteddfodau, y rhai sydd yn difa chwaeth dduwinyddol ac ysbryd crefyddol ieuenctyd ein heglwysi. Credai ef fod gweinidogion goreu yr oes hon yn ymgadw yn bur dda oddiwrth y gorhoffder cerddorol a achlysurodd y naill oes, ac oddiwrtb y duedd Eis- teddfodol a acblysurodd y llall; ac yn ymgyflwyno fel milwyr da i Iesu Grist i wrthwynebu yr amrywiol agweddau a gymera cyfeiliornadau mewn barn a buchedd o'u cylch, fel ag y bydd yr oesau dyfodol dan fwy o rwym- edigaeth iddi hi nag y mae hi i'r oesau blaenorol. Nid ydym yn cydolygu â'r oll a ddy wedai y cyfaill a nodasom am deithi nodweddiadol y gwahanol oesau; ond diamheu pe cyinerai rhywun galluog at y gorchwyl o farnu y naill dô o weinidogion ar ol y llall, yn ngwyneb anghenion y gwahanol oesau y perthynent iddynt, y gwelid fod y weinidogaeth yn Nghymru, nid yn diryẁio, ond yn graddol ymgodi at weinidogaeth gymhwys y Testament Newydd. Felly pan yn ceisio rhoddi amlinelliad o weinidog cymhwys y Chwefror, 1875. c