Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'r hwn yr unwtd "yr annibynwr." HmncÌüíiiuufí;. (gan froffeswr morris, aberhonddu.) Tybiwyd gan lawer i'r Eglwys Sefydledig gael lês newydd ar ei bywyd yn yr etholiad diweddaf. Ond nid felly y rnae wedi troi allan. Ni fu erioed fwy o siarad na mwy o bryder yn ei chylch nag sydd yn y dyddiau presenol. Y mae ar dafod ac ar ymenydd pawb braidd trwy'r wiad. Nid yw, yn hollol, wrth fodd neb sydd yn medru meddwl a deall. Y mae yn cael mwy o ergydion nag o elw, hyd yn nod oddiwrth rai o'i chyfeillion goreu. Dywed rhai ei bod yn rhy Brotestanaidd, ac y maent am ei gwneud yn fwy tebyg i Eglwys Rhufain. Dywed eraill ei bod yn cynwys gormod o Babyddiaeth, ac y maent am ei diwygio. Dywed rhai ei bod yn rby gul, ac y maent am ei gwneud yn debyg i arcli Noah, yr hon a gynwysai bob math o greaduriaid, glan ac afian. Dy wed eraill mai'r unig beth a wna'r tro ydyw ei llwyr ysgubo ymaith, fel y caffb'r wlad lonydd. Yn wir, dyna yw ein barn ddifrifol ni ein hunain. Ni fydd heddwch mwyach yn y deyrnas hyd oni symudir " asgwrn y gynen" yma allan o'r ííordd. Ond fel y dywed y Sais, uLet us look brfore we ìeap" Ié', gadewch i ni edrych yn deg ar ddwy ochr y ddalen. I. Edrychwn ar yr ochr nacaol. 1. Y maerhyw ychydigo ddynion bach eu meddwl, yn haeru mai Eglwys Loegr yw'r wir eglwys, yr hon a sefydlodd Crist ar y ddaear; nc am hyny, y dylai y Uywodraeth ei phleidio a'i chynal. O frodyr! mawr yw eich ffydd, os medrwch gredu, i'r Arglwydd Iesu Grist, pan ar y ddaear, osod eieglwys dan lywodraeth Herod a Cesar, iddo drefnu y fath lu o swyddi anrhydeddus ac enillfawr i fod ynddi, ag sydd wedi eu sefydlu yn ein Heglwys Wladol ni —iddo benodi gwladwriaethwyr, megys Disraeli, Lord Cairns, ac eraill, i benderfynu pwy sydd i eistedd yn y prif-gadeiriau yn ei synagogau; a phen- defigion y wlad, a phwy bynag sydd â digon o arian yn eu pocedau i brynu'r íraint, i apwyntio y sawl a fynont i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwr- casodd efe â'i briod waed. Yn wir, mae'n anhawdd amgyffred fod neb yn ddigon dall aceiddil i gredu, yn ei galon, beth mor ddisail a gwrthun. Y mae Dr. Paley, un o enwogion yr Eglwys, yn cyfaddef nad yw'r Eglwys Wladol yn debyg i'r eglwys a sefydlodd Crist ar y ddaear o ran ei threfn a'i llywodraeth; canys y mae efe yn dweyd fel y canlyn:—"Our religion, as it came from the hands of its Founder and his apostles, exhibited a complete abstraction from all views either of civil or ecclesiastical polity." Ond boed hyn fel y byddo, yr ydym ni yn gwrthwynebu hawl y llywodr- aeth i sefydlu hyd yn nod yr eglwys ag y maent hwy yn gredu sy'n wir eg- Iwys Crist. Canys os yw yn ddyledswydd ar y llywodraeth i sefydlu j grefydd a gredant hwy yw'r un wirioneddol, y mae hyn yA cynwys y gall í'cdyn ddyledswydd arnynt i sefydlu crefyddau gau. Yr egwyddor ydyw, íod yn rhaid i'r llywodraeth weithredu yn ol eu ífydd, pa un ai cywir ai Ionawr, 1875. A