Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'b hwn te ünwyd "yb annibynwb." YN MYSG DYNION CYHOEDDÜS YN NGHYMRü YN Y FLWYDDYN HON. Fel y bu raid i holl ddynolryw ganu yn iach iV gilydd ar lan afon angeu yn yr holl oesoedd a aethant heibio, pa mor gariadus bynag a fuont a hoff o'u cyfeillion a ymadawent, felly hefyd y rhaid i'r oes hon droi eu cefnau y naill ar y llall ar gyffiuiau y byd ysbrydol; a'r un modd yr ä pethau yn mlaen mewn oesoedd sydd heb eu geni eto hyd y dydd y gorpheno angeu ei waith, ac y derfydd am dano drwy ei foddi mewn môr didrai a diderfyn o fywyd. Mae deuddeng mis o amser yn danfon torfeydd o ddynion o bob cylch mewn cymdeithäs i lwch y bedd. Ni fwriadwn ni heddyw sylwi ond ar ymadawiad ychydig o'n cydnabyddion a'n cyfeillion yn mhlith dynion cy- hoeddus ein cenedl. Pe ysgrifenasai eraill ar yr un penawd, buasent yn cyfeirio at amryw o bersonau nad oeddynt o fewn cylch ein cydnabyddiaeth ni o gwbl, naae yn ddiau; ond rhaid i ni gyfyngu ein nodiadau i gylch ein cydnabyddiaeth bersonol ein hunain. Yn gynar iawn yn y flwyddyn hon, daeth yr hysbysiad atom am farwol- aeth y llenor medrus a thalentog, NICANDER. Fod y gwr hwnw yn llenor rhagorol, yn ysgolhaig campus, ac yn berchen athrylith uchel, a gydnabyddir yn gyffredinol gan ddynion cymhwys i roi barn ar faterion felly. Cawsom, cyn hyn, yr hyfrydwch g'ì dderbyn ef i'n haelwyd, ac o dreulio ychydig oriau yn ei gwmniaeth aml dro, ac ni welsoai un amser ddyn mwy siriol a rhydd yn ei gyfeillach na Nicander. Clywsom ei fod yn Eglwyswr tỳn iawn; ond ni welsom yr arwydd lleiaf o hyny un amser yn ei gyfeillach. Yr oedd mor gydnabyddus â'r enwadau Ymneilldu- ol ag oedd â'i enwad ei hun, a chydnabyddai dalent a defnyddioldeb pa le bynag yr ymddangosent. Cawsom y fantais o gydfeirniadu âg ef mewn mwy nag un Eisteddfod, ac ni buom yn cydfarnu gyda dyn tecach a gonest- ach erioed nag ydoedd ef. Mae genym amryw o'i lythyrau ar faterion llen- yddol. Maenc wedi eu hysgrifenu mewn ysbryd rhagorol, a thymer fẅyn a chwareus, ac o ran eu harddull yn wir Gymreig. Gwyr eraill yn well na ni beth oedd ei safle yn mysg y beirdd. Darllenasom ei awdl ar " Y Greadigaeth " lawer gwaith gyda llawer o hyfrydwch; ond ni buom erioed yn ceisio ei chlorianu gydag awdl y talentog Emrys. Boddlonasom i farn Eben Fardd yn y mater hwnw; ond yr ydym yn sicr fod yn awdl Nicander rai darnau ardderchog iawn, beth bynag a ellir ddywedyd am danì fel cyfan Rhagfîr, 1Ŵ. z