Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." I gifoẃìmr $[r. 3R. Soforta, %'njfibrtò, frafosfnimbb, Mae cyfeirio at y marw yn annymunol i deimlad y byw, a gwneud nodiadau am gyfeillion ymadawedig yn ailddolurio y teimladau gofìdus, ac yn brawf adnewyddol nad yw ffynonell y dagrau hiraethlawn, wedi ei dihysbyddu. Pâr y cyfryw gyfeiriadau i'r ochenaid esgyn drachefn o'r fynwes, a'r deigryn i dreiglo eilwaith dros y rudd. Ond y mae eithriadau dedwydd i hyn; canys ni chynyrcha y cyfryw gyfeiriadau alar digysur yn mhob amgylchiad. Dibyna natur dylanwad y cyfeiriadau ar yr hyn ydoedd ansawdd cymeriad yr ymadawed- igyn ei fywyd. Mae purdeb cymeriad, a santeiddrwydd bywyd ambell un, wedi gadael y fath "arogl esmwyth" ar ei ol, fel y mae pob cyfeiriad atoyn cynyrchu hyfrydwch pruddaidd yn y meddwl. Teimla y wraig weddw bleser i ymddyddan am rinweddau ei phriod; a'i phlant, hyfrydwch i ymdroi oddeutu ymarweddiad da eu tad: ac yr oedd ei farwolaeth yn loes, ac ergyd annhraethadwy iddynt. Mae cymeriad da yn " olew a gwin i'r archollion" a dorwyd yn nheimlad y byw gan weinidogaeth angeu, ac yn napcyn o'r fath esmwythaf i sychu ymaith y dagrau, "fel na thristaont fel rhai heb obaith." Un o'r cyfryw ydyw gwrthddrych y nodion hyn. Teilyngai ei gymeriad "wneuthuro honom" goffadwriaeth barchus am dano, a buasai ei adael yn ddisylw yn ddiystyrwch ar un o'r cymeriadau dysgleiriaf. Ac os ydym ni drwy y cyfeiriadau presenol, yn ail agor briwiau ei briod weddw, a'i blant amddifaid, y mae balm iachusol yn ei gymeriad ef digon effeithiol i'w hesmwytho a'u lliniaru. Ganwyd W. R. yn mhentref Trawsfynydd, yn y flwyddyn 1817. Enwau ei rieni oeddynt William a Gwen Roberts. Efe ydoedd y pedwerydd o chwech o blant; tri o'r rhai a'i blaenasent i fyd arall. Beth allasai fod amgylchiadau na gogwydd foesol neu feddyliol ei rieni, nis gwyddom; ond y mae yn ffaith hysbys eu bod wedi magu bechgyn talentog, galluoedd y rhai a gysegrwyd i wasanaeth y Gwaredwr. Yr oedd W. R. yn frawd i'r pregethwr, y bardd, a'r llenor athrylithgar Robin Meirion. Yr oedd ef yn un o'r bechgyn mwyaf addawol a fagwyd. rhwng mynyddoedd "Gwalia wen." Ond, '' Gostyngwyd ei nerth ar y ffordd," a "machludodd ei haul a hi eto yn ddydd." Gorfodwyd ef gan y darfodedigaeth i ddychwelyd ar ganol tymor ei efrydiaeth, o athrofa Cheshunt, i'w hen gartref genedigol, lle y bu farw, yn mhen y tri mis ar ol ei ddychwelyd. Tlws iawn y canodd y diweddar Barch. T. Pierce am dano:— " Rhoes ef enw i Drawsfynydd—a mawredd I gymeriad crefydd, Fe arweinia i Feirionydd, A'i fawr ddawn yn ei fyr ddydd." Aphriodol y cerfiwyd ar eifeddfaen:— "Ei enw'n fawr, fawr afydd, Tra saif enw Trawsfynydd." Brawd arall i W. R. ydyw y gweinidog gweithgar a llafurus, y Parch. John Gwilym Roberts, diweddar o Howden, ond yn breaencl o Norland Chapel, Llundain. Hydrbf, 1874. t