Skip to main content

Y DYSGEDYDÜ a'r. hwn yr dnwyd "yr annibynwr.' A DRADDODWYD YN NGHYFARFOD BLYNYDDOL UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG YN MERTHYR TYDFIL, Awst 5, 1874. (GAN Y PARCH. W. GRIFFITH, CAERGYBI.) Fy anwyl Frodyr—Gweinidogion, a Diaconiaid, a Chenadau yr eglwysi,— Yr wyf yraa, nid am fy raod yn caru y prif-gadeiriau yn y synagogau, ond am fy raod yn caru ufuddhau i'ch pleidlais chwi. Y mae hyny wedi bod yn hen benderfyniad genyf, mewn cyfarfod cyhoeddus, i ymostwng i farn fy mrodyr, cydsyuio â'u cais, a gwneud yn ol fy ngallu yr hyn a geis- iant genyf. Gwyr pawb am fy llesgedd, a gwn inau fod pawb yn ddigon tirion i gyd- ddwyn â mi—y Meistr yn dirion, a chwithau, fy nghydweision, yn debyg iddo. Y testun ag y mae fy meddwl wedigorpbwys arno yw, Annibyniaeth Gynulleidfaol. Credu yr wyf mai nid testun afreidiol ac anamserol mo hono ar hyn o bryd, ond ei fod yn wir angenrheidiol a dyddorol. Ychydig sydd o ysgrifenu ac o draethu arno, oddigerth yn achlysurol niewn ambell urddiad, ac yn ddiweddar mewn ambcll Feirniad a Thyst. Ychydig, o ganlyniad, sydd yn cael cyfleusdra i ddarllen na gwrando dim o berthynas iddo; ychydig iawn tufewn i'n cyfundeb, a nemawr neb tuallan iddo. Bydd y tipyn a ddywedir yma heddyw yn cael ei gyfeirio, nid atoch chwi sydd yn bresenol yn unig nac yn benaf—trawsforio glo i Forganwg fyddai Lyny— ond trwoch chwi at ein cynulleidfaoedd yn gyffredinol, ac ieuenctyd ein cynulleidfaoedd yn neillduol. Y mae mwy o enwau arnom nag sydd ar unrhyw enwad arall o grefydd- wyr. Buasai un enw yn íwy gwahaniaethol a dymunol; y mae Uawer yn peri dyryswch. Gelwir ni yn Anghydffurfwyr (Noncontormists), am nad ydym yn cydymfiurfio â'r Eglwys Wladol; ac yn Ymneillduwyr (Dissenters), am ein bod yn neillduo oddiwrthi. Gelwir ni hefyd yn Annibynwyr (Independents), am fod pob eglwys yn gyflawn ynddi ei hun, yn annibynol ar bob eglwys arall, ac heb fod yn gyfrifol i un awdurdod wladol na chref- yddol tuallan iddi ei hunan, ond i Grist yn unig. Gelwir ni yn Gynulleid- fawyr (Congregationalisls), am íod llywodraeth pob eglwys, nid yn ei swyddogion yn unig, ond yn yr holl gynulleidfa a'r swyddogion gyda'u gilydd. Gwyddom am yr hen wrthddadl, Os llywodraethioyr pawb, pa le mae y deiliaid ? Os yw pawb i lywodraethu, p^ey sydd i gael eu llywodr- aethu? Yr atebiad yw, Nid llywodraethwyr y w pawb. Nid pawb sydd i lywodraethu, ond y swyddogion dros bawb, a hyny trwy ddewisiad a chyd- syniad pawb o'r eglwys. Ac nid gwneud cyfreithiau sydd i'r swyddogion Mbdi, 1874. r