Skip to main content

Y DYSGEDYDD: A.B HWN YK UNWYD " YB ANNIBYNWB. êjîagbbiiîíí^ ntefcw Énfgbfc. Mewn rhifyn blaenorol o'n cyhoeddiad, gwnaethom ychydig o sylwadau ar ystranciau Epayddol mewn cysylltiad â chrefydd, a nodasom amryw o'r gwreiddiau o ba rai y tardda defodaeth yn ei gwahanol ddullweddau. Yn bresenol, awn rhagom i wneud ychydig o nodiadau ar ddefodaeth yn ei gwaith, ac yn ei heffeithiau niweidiol ar boblogaeth gwlad. Dacw esgob, o'r olyniaeth apostolaidd ddychymygol, a fu dan ein sylw eisoes, wedi cael ei urdd o Rufain, ac nid o'r Testament Newydd, a hyny drwy awdurdod wladol Harri yr Wythfed, Edward y- Chweched, ac Elizabeth, penaduriaid Prydain yn eu dydd, yn nghyda'u cyughorwyr, yn myned yn nghylch y gorchwyl o gysegru Llan, a llestri ei gwasanaeth, fel y byddo ei choed, ei cheryg, ei morter, eigwydrau, ei hallor, ei bedyddfan, a darn o dir oddiamgylch iddi, oll yn santaidd at wasanaeth crefydd, ac i gladdu y meirw. Gyda llaw hefyd, mae y Llan a gysegrir felly yn dŷ â delw babaidd arno,—mewn croesau, a liuniau, ac o ran ei ffurf; nid lle ydy w wedi ei addasu i gynulleidfa addoli, ond ty i oíieiriaid berformio ynddo. Ni amcanwyd ef, yn benaí, at bregethu a gwrando yr efengyl, gweddio a niolianu; ond trefnwyd ef at gyflawni ystumiau defodaeth. Wedi cael lle yn barod i oífeiriad weinyddu ynddo, dacw ddyn yn sefyll gerbron esgob, i gael ei neillduo i'r swydd o ddarlìen gweddiau, a phregeth- au, a chyflawni defodau i'r gynulleidfa a ddelo yn nghyd, yn y Llan gysegr- edig. Proffesa ei fod wedi ei gynhyrfu, a'i alw at y gwaith a gymer mewn llaw, gan yr Ysbryd Glan, ac urddir ef yn ddiacon, neu y peth a alwai Gor- onwy Owain, yn ol pobl Món, yn offeiriad lianerpan. Pan ddelo adeg gyf- addas, caiff ei gyflawn urddau; a chymer yr esgob sydd yn ei urddo arno ei fod yn rhoi iddo yr Ysbryd Glan, trwy arddodiad ei ddwylaw ar yr ordeiniedig. Mae y fath ysgelerder yn y mochery ymao gyfranu yr Ysbryd Glan, fel y mae yn anhawdd gwybod pa fodd i lefaru am dano heb arfer iaith gyrcti a garw, yr hyn na ddymunem ei wneuthur, er fod y fath ynfydrwydd yn galw am lymder. Cyn hir, ceir gweled y gweinidog urddedig yn myned o dŷ i dŷ, yn nghymydogaeth ei Lan, i ddarostwng Ymneillduwyr Protestanaidd, gan geisio eu hudo hwy, ac yn enwedig eu plant, i ddyfod i addoli, bellach, at allor ei bigwrndy Pabaidd ef ei hunan; ac er ei fod gan dywylled am bethau y Beibl a mawnen, neu grochan o byg, hòna ryw uwchafiaeth ar ddysgawd- wyr eraill, na wyr neb mewn pa beth y mae yn gynwysedig. Prin yr edrycha ar bregethwyr yr Ymneillduwyr;—mae ei wddf yn dra anhyblyg; pe troai ei ben yn gyflym i'r dde, neu i'r aswy, byddai ei fwnwgl mewn perygl o dori, fel coes pibell. Gellid t^bied mai i boeri am ben pobl eraill y daeth efe i'r byd, a bydded yn sicr iddo, y bydd llawer yn barod i boeri ar ei ol yntau pan elo alla'n o'r byd. Ceir ei weled yn myned i dai oi gymydogaeth Awst, 1874. i'