Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD A'R HWN TB UNWTD " TB ANNIBTNWB." $Iafowiabb fefgbbûl (gan t parch. m. d. jones, bala.) Mae llawer o bobl yn meddwl mai peth i dristâu dynion yw crefydd, a chredir gan lawer mai'r dyn mwyaf crefyddol y w'r dyn mwyaf trist. Mae'r Beibl yn dysgu yn hollol wahanol. Dywedai Crist wrth ei ddilynwyr, "Byddwch lawen a hyfryd," pan y byddent yn cael eu herlid. Mae crefydd yn dysgu dyn i "orfoleddu mewn gorthrymderau," ac addysg yr apostol yw, "Bydd- wch lawen yn wastadol." Yn llawen y crëwyd dyn ar y dechreu. Cyn i bechod ddyfod i'r byd, ni wyddai dynion ddim am alar a thristwch. Plentyn pechod yw galar. Wedi i Adda ac Efa droseddu y codwyd llifddor melldith y codwm, a daeth poen, galar, a marwolaeth fel cenllif dinystriol ar draws y ddynoliaeth. Trefn yw'r efengyl i'n hadfer yn ol at Dduw, a chynllun i symud ymaith holl felldithion y codwm; ac iel y byddom yn cael ein goleuo a'n santeiddio drwy ras ein Harglwydd Iesu Grist, a'n hadfer at Dduw drwy yr efengyl, yr ydym yn cael ein gwneud yn ddynion llawen yn ol. Pan berffeithir gwaith yr iachawdwriaeth ynom yn yr adgyfodiad, gellir dywedyd, "A'r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddiar bob wyneb." Mae o bwys i ni ddeall beth yw gwir lawenydd. Mae yr un gair yn fynych yn cael ei arfer am bethau tra annhebyg. Defnyddir y gair cariad am bethau hynod o wahanol. Mae cariad angerddol o ryw natur gan arthes at ei chenawon, ond y mae hwnw yn wahanol iawn oddiwrth y gras o gariad yn mynwes y dyn da. Felly, y mae y gair llawenydd yn myned am bethau pur annhebyg, ac y mae o bwys i ni ddeall beth a feddylir wrth lawenjdd crefyddol. Mae llawenydd crefyddol yn beth gwahanol iawn oddiwrth lawenydd cyfansoddiadol. Mae rhyw ddynion wedi eu crëu yn nes at rinwedd na dynion eraill, fel ag y mae rhyw lanerchau o'r ddaear naturiol a llai o fell- dith y codwm arnynt na llanerchau eraill. Mae Duw wedi dweyd am yr holl ddaear ar ol i Adda bechu, " Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti;" ond y mae rhyw gonglau mor ffrwythlon—yn ddoldir mor gynyrchiol—mor debyg i ardd Eden —ac mor rydd oddiwrth ddrain ac ysgall, fel mai prin y gellir dweyd fod melldith y codwm ar y cyfryw lanerchau. Mae llanerchau eraill yn hynod o dueddol i ddwyn llysiau y felldith—yn llawn ysgall, drain, a mieri, ac ôl y codwm yn eglur arnynt. Yr un fath yn union y mae gwahanol feddyliau. Mae ambell i blentyn wedi ei grëu mor naturiol ddeallus a rhinweddol, fel y mae bron a bod yn angel bychan, tra y mae plentyn arall wedi syrthio yn ddwfn yn y codwm, ac mor llawno ddrygioni a dirieidi, nes peri i ddyn dybio mai'r ysbryd drwg ydyw ei dad. Mae dyn- ion naturiol wrol, cefnog, a llawen, a dynion sydd yn naturiol lwfr a