Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y D YS GEDYDD a'b hwn te unwyd "yr annibynwb." (OAN Y PARCH. LEWIS PROBERT, PENTRE.) "Yr ieuanc a dyb, ond yr hen a wyr," sydd ddoeth-wers un o brif-feddylwyr yr oesau. Tuedd yr ieuainc ydyw myned yn mlaen i'r dyfodol anmhrofedig ac ansicr; ond ymhyírydu mewn myned yn ol i'r gorphenol profedig a sicr mae yr hen—Joseph yn breuddwydio, ac yn mynegu ei freuddwydion i eraill, er anfantais iddo ei hun yn aml, ydyw yr ieuanc; ond Joseph yn deongli breuddwydion eraill, er dyrchafiad iddo ei hun, ydyw yr hen. Perygl dynion ieuainc ydyw lliwio y dyfodol yn wynach nag y cânt ef, nes syrthio i dditaterwch yn nghylch dyledswyddau y presenol; ac y mae perygl i hen ddynion liwio y gorphenol yn wynach nag y cawsant ef, nes myned i feio yn ormodol ar y presenol. Gwelsom hen bobl mor gul eo barn, a cheidwadol eu hysbryd, nes ystyried pawb a phobpeth y dyddiau hyn yn annheilwng o'u cymharu â gogoniant y pethau gynt. Da fuasai i'r cyfryw wrando ar gynghor-gerydd y "gwr doeth," "Na ddywed paham y bu y dydd- iau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn; canjs nid o ddoethineb yr wytyn ymofyn am y peth hyn." Gwella mae y byd yn gyflym yn mhob ystyr, er fod sylw arwynebol yn peri weithiau i ni gasglu yn wahanol am dano; ac mae llawer o'n henafgwyr doeth a duwiol yn ymdrechu hyd eithaf eu gallu i gyfarwyddo a chefnogi yr ieuainc i'w godi i safie uwch eto yn y dyfodol. Clywsom y cyfryw lawer tro, a'u llais yn boddi mewn dagrau ar y pryd, yn rhoddi y cynghor hwn i'r dychweledigion ieuainc yn Seion,—"Mynwch greýydd dda wrth ddechreu." Effeithiodd y cynghor yna gymaint ar ein meddwl, wrth ei wrando yn cael ei roddi yn ddiweddar, fel y teimlwn awydd cyfyngu ein sylwadau yn y papyr hwn iddo; ac er mwyn eglurder, dosranwn hwynt. I. Cynwysiad y Cynghor. Er mai bod anrhanadwy yw yr enaid, dosberthir ei alluoedd i ddeall, teimladrwydd, ac ewyllys. Y deall yw eisteddle gwybodaeth, y teimlad- rwydd yn eisteddle profiad, a'r ewyllys yn ysgogydd gweithredoedd. Felly, cyn y gall dyn gysegru ei hun yn hollol i wasanaeth yr Arglwydd, nes dechreu yn iawn gyda chrefydd, rhaid iddogyfiwyno y galluoedd a nodwyd ar allor crefydd; ond cyn y gall ddechreu yn dda, rhaid iddo eu cyflwyno ar eu heitlmý. Os ydyw hyna yn gywir, mae dechreu bywyd crefyddol yn dda, yn golygu dechreu gyda phenderfyniad i gyrhaedd gwybodaeth eang, profiad uchel, a dejnyddioldeb mawr. Mae rhyw gymaint o wybodaeth grefyddol yn angenrheidiol cyn y gellir dechreu o gwbl; oblegid nis gellir cael agoriad i deyrnas Dduw, heb i'r ewyllys blygu i ewyllys Duw, na'r ewyllys blygu heb argraffiadau daionus ar y galon, na'r galon deimlo heb ryw gymaint o oleuni yn y deall, Rhuf. x. 13, 14. Anhawdd dweyd faint o wybodaeth dduwinyddol sydd yn Mehefin, 1874. l