Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Êofîant MR. JOHN HUGHES, CAERNARFON. (OAN Y PARCH. D. ROBERTS, WREA'HASí). PEN. IV.* " A dychwelyd y cymylau ar ol y gwlaw." , Fel yr oedd iechyd ein cyfaill yn gwanhau, yr oedd yr hyn a fuasai unwaith yn ei adgyfnerthu am ysbaid, yn myned yn fwy aneffeithiol. Yr oedd ei ymweliadau â gwahanol fanau yn ei wlad ei hun, ei bereiindodau i Landrin- dod, ac â chymydogaethau y dyfroedd iachusol yn mhob man, yn ei adael ef bion yn yr un gwendid. O'r diwedd, cynghorwyd ef gan ei feddygon i dreulio y gauaf yn neheubarth Ffrainc. Yn ol y cyfarwyddyd hwn, aeth i llyeres Var, ac yno y gauafodd efe yn y flwyddyn li>G2; a thybiai ef, tybiem ninau hefyd, ei fod yn Uawer gwell yn dychwelyd nag ydoedd yn myned yno. Ond fel yr oedd y gwres-fesurydd yn gostwng, gwelidyn eglur ei fod yntau yn myned i lawr lawer o raddau. Treuliodd lawer o'r tymor y bu adref yn ymweled â'r cleifion. Yr oedd " ymweled â'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd," a'r afiach yn ei gystudd, yn amlwg iawn yn nghrefydd bur ein hanwyl gyfaill, a meddai fwy o gymhwysderau na'r cy- fíredin i gyflawni y ddyledswydd hon yn effeithiol. Nid oedd neb a fyddai yn fwy croesawus at wely cystudd nag ef; yr oedd ei fynych wendid yn ei alluogi i gydymdeimlo yn ddwys â'r llesg; cofiai ef " y rhai oeddynt yn rhwym megys yn bod felly yn y coiff." Gallasai ddweyd fel y llanwasai y gwlaw y llynau iddo ef yn nyffryn Bacha, nes ei gwneud yn ffynon i aml enaid sychedig. Gweddîai gyda hwy mor llawn o deimlad nes yr haner iachäai lawer claf. Byddai y naws grefyddol fyddai ar ei eiriau fel -awelon adfywiol, yn gwasgar cymylau amheuaeth o'r awyrgylch. Lle y byddai angen, rhoddai hefyd o angenrheidiau y corff, ac nid dweyd yn unig, "Ewcli ruewn heddwch, ymdwymnwch ac ymddigonwch," a wnai efe. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi cael barn angeu ynddo ei hun, er y cadwai hyny hyd y gallodd oddiwrth ei berthynasau agosaf. Yn niwedd y flwyddyn 1863, gadawodd drachefh am ddeheubarth Ffrainc yn nghwmni ei unig ferch. Noswaith efíeithiol oedd noswaith y societycyn iddo gychwyn. Yr oedd yr olwg arno ef yn wael, a theiinlai yr holl frawd- oliaeth nad oeddynt i gael llawer o'i gymdeithas mwyach ar y ddaear. *Oedwyd gorphen yr hyn a ddechreuwyd o Gofiant y gwr dahwn yn rhifynau Chwefror, Mawrth, a Mai, 1868, am y bwriedid unwaith gyhoeddi cyfrol fechan o'i hanes; ond pa un bynag a wneir hyny ai peidio, tybir mai ein dyledswydd ydyw go'rphen yr hyn a ddechreu- wyd yn yr un cyhoeddiad. Ebrill, 1874. o