Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'r hwn tr unwyd "tr annibtnwr." Mhnbbfrnòhuíl;. Mae yr etholiad cyffredinol eleni yn dangos yn eglur fod cyfnewidiad mawr a phwysig wedi cymeryd Ue mewn rhanau helaeth o'n gwlad, gyda golwg ar ein cynrychioliad yn y Senedd sydd yn bresenol ar ymgasglu yn nghyd. Fel yr oedd gany Rhyddírydwyr fwyafrif mawr yn y Senedd ddiweddaf, felly y bydd gan y Ceidwadwyr fwyafrif helaeth yn y Senedd nesaf, er y bydd ein cynrychiolwyr yn hòno i gyd wredi eu hethol gan y bobl drwy y Tugel. Dengys hyny, tuhwnt i amheuaeth, fod Gweinyddiaeth Mr. Gladstone wedi colli serch a hyder lluaws o'n cydwladwyr. Nid ydym yn dywedyd fod Rhyddfrydiaeth, fel y cyfryw, wedi colli serch a hyder y bobl. Pel) ydym o feddwl hyny; ond diau fod gweinidogion ei Mawrhydi, gwlad- weinwyr y genedl, wedicDlli eu dylanwad, i raddau helaeth, ar luaws o'u cyfeillion a'u pleidwyr. Mae hon yn ffaith nas gellir ei gwadu, pa fodd bynag y rhoddir cyfrif am dani. Drwg genym, mewn llawer ystyr, fod llywodraethiad y wlad hon wedi syrthio o ddwylaw y blaid Ilyddfrydig, yr hon a wnaeth gymaint er eangu rhagorfreintiau gwladol, a chrefyddol, a masnachol ein tiriogaethau; a gweinyddiaeth a fu mor lwyddianus i gadw heddwch rhwng y wlad hon a gwledydd eraill; ac yn nwylaw yr hon y bu cyllidau y deyrnas mor gy- nyrchfawr. A gwaeth fyth genym fod yr awenau wedi disgyn i ddwylaw plaid na wnaeth les i'r wlad erioed, ond er ei gwaethaf,—plaid na fỳn wneud dim i neb ond i ychydig gyfeillion; plaid na fỳn symud cam yn mlaen; a phlaid a symudai yn ol, pe y goddefai y wlad iddynt wneud hyny, iddyddiau Siarl II., Siarl i., a'r Frenhines Elizibeth; plaid afradlonedd, rhyfeloedd, ac ymyraeth; plaid monopoly masnachol a gweithfaol; a phlaid sydd oesoedd ar ol y dyddiau y maent yn by w ynddynt. Mae yn debyg fod llanw a thrai yn perthyn i wleidyddiaeth, yn gystal ag i'r môr; ac y mae y llanw yn dechreu mynedallan, tua'r distyll, yn y dyddiau presenol; ond cyfyd y dyfroedd eto, bob yn dipyn, nes gorchuddio y ty wod-fryniau a'r glenydd, i ddigoni y myrdd- iynau sydd a'u safnau yn agored yn dysgwyl am ei ymweliad. Fel y mae haf a gauaf yn perthyn i'r flwyddyn, felly hefyd y mae rhywbeth tebyg yn perthyn i wleidyddiaeth; ac wele ni yn awrar ddechreu ygauaf, maegwyw- der ac oerni yn ein cylchynu; mae stormydd, a rhew, ac eira, o'n blaen, feallai; er hyny, gall Rhagluniaeth beri iddo fod yn auaf agored a thyner. Pa fodd bynag y bydd, ni all barhau ond am dymor. Daw y gwanwyn ar ei ol; daw y gôg a'r wenfol eto i'r wlad; a cheir haf toreithiog drachefn mewn diwygiadau mewn lluaws o bethau. Yn y senedd nesaf, bydd gan y Rhydd- frydwyr ddynion galluog i wylio symudiadau y Ceidwadwyr; a rhaid i'r weinyddiaeth gerdded yn araf a gwyliadwrus. Ni allant wneuthur fel y myn- ont bob amser, a chânt weled a theimlo hyny cyn bo hir. Bydd Gladstone a Bright ac eraill a'u llygaid eryraidd arnynt; a diau fod y Rhyddfrydwyr yn Mawrth, 1974. e