Skip to main content

Y DYSGEDYDD a'b hwn tb unwtd "tb annd3tnwb." î? Sitoŵìmr %mk W. %mbtm. (Parhad o'r rhifyn diweddaf.) Bu Mr. Ambrose yn gydgyfranog â'i frodyr—Pugh o Mostyn; William (Caledfryn); Parry, Llandudno; Roberts, Llanrwst; a'r ysgrifenydd, yn ngolygiaeth y Dysgedydd o'r flwyddyn 1853 hyd 1866; ac wedi hyny mewn cysylltiad â Mr. Thomas, Bangor (yn awr o'r Bala), hyd ei farwolaeth. Yn ystod y tymor cyntaf a grybwyllwyd, yr ymddangosodd yr ysgrifau dyddorol hyny o'i eiddo—" Adgofion Jy Ngwieinidogaeth"—y rhai, ni phetruswn ddywedyd yn hyf, ped ymddangosasent mewn unrhyw fisolyn Seisonig, a fuasent jnffortun dda iddo. Enillasent iddo fìloedd o dderbyn- wyr a" darllenwyr awyddus. Ond pa fath oedd y gefnogaeth a gafodd y Dysgedtdd gan yr enwad a wasanaethai, a darllenwyr Cymreig yn gyffred- inol, yr amser hwnw, ac o'r pryd hwnw hyd y pryd hwn? Wel, hwyrach na waeth tewi a son. Dygodd y wasg yn Nghymru, drwy y misolion a'r wythnosolion, yn Gymraeg a Seisonig, dystiolaeth unol am ein diweddar gyfaill, ar achlysur ei farwolaeth a'i gladdedigaeth, fel un o brif gedyrn ei oes a'i genedl. Cyd- unent, heb un eithriad y gwyddom am dani, i'w osod yn y rhestr uchaf fel bardd a llenor, pregethwr a gweinidog; ac â hyn y cytuna syniad y genedl yn gyffredinol, feddyliem. Gellid, fe ddichon, nodi ambell un llawn ogyf- uwch âg ef mewn un peth, arall mewn peth arall; ond, a chymeryd pob peth gyda'u gilydd, nid hawdd fyddai cael un gogyfartal âg ef". Yr oedd. efe yn "herŷaith a chyjan" yn yr ystyr yma, heb fod yn ddiŷygiol mewn dim—yn thorough accomjẃished man, ys dywed y Sais. Yr oedd wedi ei fendithio yn helaeth â'r gras gwerthfawr o synwyr cyffredin, a gallu deall- twriaethol cryf, yn nghydag ysbryd doethineb a phwyll, a hunanfeddiant, a'u gwnelynt ef yn wr galluog mewn barn a chynghor, ac yn dywysog yn mysg gwŷr. " Ni adnabum i un dyn erioed a enillodd gymaìnt o*m hyder yn ei farn a'i gynghor ar bob achos," meddai ei gymydog a'i gyfaill, y Parch. T. Jones, Tabor, ara dano. Ei deithi mwyaf dynodol fel bardd oeddynt y tlws, y tyner, a'r toddedig; elfenau gwir hanfodol barddoniaeth ddiledryw. Safai yn flaenaf a phenaf o'n beirdd yn y rhagoriaethau hyn, debygem. Gallai hefyd roddi brathiad- au miniog, a'r sènau llymdostaf ar achlysuron, pan ddelai gwrthddrych haeddol o'r driniaeth yn ei ffordd. Pendefiges uchel-goeth, brydferth, dyner, a llednais, oedd ei awen ef; er hyny, gwae y dynsawd hwnw a dynai ei scorn hi arno. Nid oedd dim yn rhamantwyllt yn ei darfelydd, nac yn fursengoeg yn ei harddull, nac yn wyntog yn ei geiriau a'i brawddegau; yr oedd yn rhy goeth a dysgybledig ei barn a'i chwaeth i bethau aflednais felly gyffwrdd â hi. Gadawodd ei awenyddiaeth ef laweroedd o linellau a fydd- ant yn aros megys yn ddiarhebion ar wefusau y genedl tra fyddo'r iaith Chwbfror, 1874. c