Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'b hwn yr unwyd "yb annibynwb." I gitotòbar §arrfr. $!♦ ^mbrnsí. Cododd gweinidogaeth angeu doll drom iawn ar weinidogaeth bywyd yn ein plith fel enwad yn Nghymru, yn ystod y pum' mlynedd diweddaf. I)i- ffoddcdd o fewn y cyfnod hwnw o amser o ddeuddeg i bymtheg ar hugain o ser ein ffurfafen, amryw o honynt yn ser o'r maintioli mwyaf. O íewn y flwyddyn sydd newydd derfynu, cymerodd Arglwydd y lluoedd o'n Seion yr henafgwyr anrhydeddus Jones o Amlwch, a Griffiths o Bethel, a fuasent yn gydlafurwyr cyson ar faes y weinidogaeth am haner can' nilynedd; a'r brawd- wyr, a'r prophwydi, a'r areithwyr hyawdl, Evans o Langollen, Davies o Lan- deilo, ac Ambrose o Borthmadog; ac âg ef yn neillduol y mae a wnelom yn awr. Wrth ymaflyd yn y gorchwyl pruddaidd hwn, cyfyd adgofion hiraethus ara lawer o dadau a brodyr oeddynt yn gedyrn enwog ar faes y weinidogaeth pan oedd yr ysgrifenydd yn cychwyn ar ei yrfa weinidogaethol, dair blynedd a deugain yn ol, ac ydynt wedi myned; ac amryw eraill a godasant ar ei ol ef, ac a aethant o'i flaen. Y mae delweddau eu hwynebpryd amryw o hon- ynt yn ymgodi i'r golwg, acyn ymgilio o'r golwg ar ol eu gilyddo flaen ei feddwl fel dissolving vieivs y fynyd hon. Galwyd ef gan eglwysi a chyfeill- ion galarus i gyflawni y prudd wasanaeth o draddodi y bregeth angladdol i amryw o honynt. Y cyntaf oedd y diweddar Rowlands o'r Henryd, brawd a chyfaill hoff, a phregethwr nerthol, oedd agos gyfoed iddo yn y byd, ac yn y w einidogaeth. Y nesaf oedd yr anfarwol Williams o'r Wern, oedd lawer 0 flynyddoedd yn hŷn nag ef, a'r hwn a garai efe fel tad caruaidd, a chyf- aill gwerthfawrocaf. Yn fuan ar ei ol ef, y seraphaidd Jones o Ruthyn, oedd flynyddoedd yn ieuangach na'r ysgrifenydd; ac ar ol yr hwn y galarai ac yr hiraethai, fel un yn galaru ac yn hiraethu am ei gyntafanedig. Yn mhen liuaws o flynyddau wedi hyny, ei gyfaill mynwesol, a'i gydlafurwr fíyddlawn am hir amser, Pierce, Liverpool, yr hwn otdd ychydig yn hŷn nag ef mewn dyddiau, ac ychydig fisoedd yn ieuangach nag ef yn y weinidogaeth. Y nesaf oedd y brawd anwyl a'r gweinidog ffyddláwn Harris o'r Wydd- grug, yr hwn oedd amryw flynyddau yn hŷn nag ef; a'r nesaf ato yntau ei gyíoed, ond yn hŷn o rai blynyddau fel gweinidog, y cyfaill pur, a'r cynghorwr doeth Pugh o Mostyn. Yn fuan ar ei ol ef, ei anwyl frawd yn 01 ycnawd, ac yn yr efengy), Henry Rees. Yna ei gyfoed, yr addfwyn a'r caruaidd Evans o Langollen; ac yn ddiweddaf oll, ac yn mysg y penaf oll o'i frodyr a'i gyfeillion, Ambrose o Borthmadog. Yr oedd ef nifer o flyn- yddau yn ieuangach mewn oedran na'r ysgrifenydd. Llawer gwaith y tybiasai mai Mr. Ambrose a alwasid i bregethu ar ei angladd ef, ond yn y gwrthwyneb i hyny y bu. Wel, hen frodyr a thadau cu ac anwyl, gorphwyswch chwi yn dawel yn eich ystafelloedd, tra fyddom ni am ryw enyd eto yn ymdeithio yn y glyn Ionawr, 1874. a