Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*• Y DYSGEDYDD. a'B HWN TB DNWTD " TB ANNIBTBTWB." $*8it êtmt git f r*0*ffm, YN ESIAMPL I BREGETHWYR ERAILL. " A phregethu efengyl y deyrnas," Mat. iv. 23; ix. 35. "Ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd," Mat. xxiL 16. Y MAE siarad cyhoeddus wedi bod yn hen arferiad yn mysg pob cenedl— gwar ac anwar. Arferwyd hyny gan wladyddion, megys gan ein senedd- wyr nij gan areithwyr proffesedig a dadleuwyr o flaen y frawdlys yn mysg yr hen genedloedd hanesyddol, Groeg a Rhufain, cystal ag yn ein gwlad ein hunain. Byddai athrawon yn yr hen ysgolion yn gorfod siarad llawer â'r myfyrwyr o herwydd prinder Uyfrau, fel Aristotle yn ei ysgol fawr ef, yr » hwn a rodiai yn mlaen ac yn ol yn y Lyceum yn Athen, gan siarad yn barhaus â'i luaws myfyrwyr, y rhai a alwyd o herwydd hyny yn amgylch- rodianwyr (peripatetics). Siaradwyr cyhoeddus hefyd oedd y prophwydi Iuddewig. Byddai rhai o honynt, flynjddau lawer, megys Hosea, yn siarad yn enwyr Arglwydd wrth eu cydwladwyr; ac y mae gyda ninau grynodeb, ac nid ydyw ond crynodeb, o'r hÿn a leíarasant wedi ei ysgrifenu ar gân* Bu ysbryd prophwydoliaeth yn ddystaw yn*«mysg yr Iuddewon o amser Malachi hyd ddyddiau Ioan Fedyddiwr. Arosai yr Ysbryá Glan ar rai meddyliau yn y wlad yn y cyfamser, megys ar Simeon ac Anna y bro- I phwy^des, i'rHhai y dadguddid trwy freuddwydion a gweledigaethau raî À pethau a fyddent, a phethau cuddiedig oddiwrth eraill. Ond anfynych a f, rhanol y gwneid hyny. Aeth Ioan Fedyddiwr, offeiriad ieuanc, deg ar hugain oed, allan i blith y bobl yn ysbryd a nerth Elias, gan bregethu .---------------------------------------------------------------------------.-------------------,-------------------------,--------------------------------------------------------------------,----------------j-----------------------------,-------------------------------,-----------------------------------------------------------,---------------------------- * At ddeall yr ysgrifau hynafol hyn yn well, buasai yn dda i ni wybod yn fwy nag y gwyddom heddyw pa le yr oedd un dernyn a ypgrifenent yn dybenu, a'r llall—y nesaf ato—yn dechreu. Yn hyny yr ydym yn ànffodus o herwydd yr hen ddull o yagrifenu y cyfan fel un gair, megys, Cristyn^re^iuefengylydeyrnas. Y mae y gwŷr hyny yn ganmoladwy ag a ddarfu wneuthur rhanjadau a phegodau, ac adnodau o'r ysgrifau hyn. Er hyny, nid y w ond gwaith anmherffaith, gan mai nid gwaith un dyn, nao nn oes chwaith y gall fod, a'r anmherffeithrwydd hyn yn peri trafferth di- angen i'r darllenydd. Nid yw y penodau, na'r ladnodau, na'r geiriau yn mhob man, wedi eu rhanu yn ddyladwy. Credwn yn gryf yn ysbrydoliaeth ysgrifeniada» y pro- phwydi, fel y daethant o dan eu llaw hwynt, ond nid yn ysbrydoliaeth y eopîwyr na rhanwyr yr ysgrifau, mwy nag yn ysbíydoliaeth neu gywirdeb argraflladau y Beibl Cymraeg. Er hyny, nid ydym yn gwrthod y Beibl Cymraeg o herwydd y gwallau < hyn. Ni wrthodwn chwaith y Beibl Hebreaidd o herwydd y gwallau ysgrifol neu argraffyddol a allant berthyn iddo, na gwadu ei ysbrydoliaeth. Tachwbdd, 1873. x