Skip to main content

Y DYSGEDYDD. a'e hwn yk unwyd "yr annibynwb." |r fsforüb, gr OEglto^s, a'r §rjîrt Darllenwyd rhan o'r papyr a ganlyn yn Nghynadledd foreol yr " Undeb Cynulleidfaol Cymreig," yn Nghaernarfon, Medi 3. Ni chafwyd amser i ddarllen y cwbl. Mae y pwnc mor eang, fel nad oes ynddo ond awgrymau ar y pynciau y sylwir arnynt. Nid yw y Gynadledd yn gyfrifol am un o'r syniadau sydd yn y papyr.—J. Xewi», Herúlan. Amcanwn, trwy gymhorth yr Ysbryd, alw sylw y Gynadledd at ychydig fyfyrdodau ar y testun uchod. Edrychir ar yr Ysbryd, yr eglwys, a'r byd, yn eu perthynas â'u gilydd. Heb yr Ysbryd, nis gellir gwneuthur dim yn foddhaol gyda Duw, ac yn fuddiol i ddynion. Ein gweddi fyddo am ei gael, ei ddylanwadau yn eu helaetbrwydd, eu hamrywiaeth, a'u cadernid, fel y byddo i gyfarfod presenol yr Undeb gael ei hynodi yn mhlith cyfar- fodydd yr oes, fel y Pentecost yn yr oes apostolaidd. " O Dduw! rho in' dy Ysbryd," àc. YR YSBRYD. Golygwn y byddai yn briodol i wneuthur ychydig sylwadau ar yr Ysbryd, ei berthynas â'r eglwys, natur ei waith, y rheolau, a'r amodau yn ol pa rai y dyg ei waith yn mlaen, y nodau wrth ba rai yr adwaenir ei waith, er ein cynorthwyo i ffurfio barn gywir am sefyllfa foesol ac ysbrydol yr eglwysi; eu rhagoriaethau a'u diffygion; y pwys o'u diwygio, a'r moddion i'w defn- yddio tuagat gyrhaedd yr amcan; eu dyledswyddau tuagat y byd, <fec. Awgrymir yn— 1. Mai nid priodoledd ddwyfol, neu ddylanwad goruchel, neu ysbryd puraf ac ardderchocaf yr oes a olygir wrtho, ond yr Ysbryd Glan—y tryd- ydd person yn yr hanfod Ddwyfol, yr hwn yw ffynon pob goleuni, bywyd, dawn, a rhinwedd ysbrydol yn yr eglwys. 2. Awgrymwn fod yr Ysbryd Glan yn gwneuthur y fath waith ar y meddwl nas gall unrhyw fôd, neu allu arall, ei wneuthur. Gwna waith ag sydd, nid yn unig yn ddymunol i'w wneuthur, ond yn hanfodol angenrheid- iol er iachawdwriaeth. Gwaith ag sydd yn gwahaniaethu oddiwrth bob gwaith arall, nid yn unig yn ei raddau, ond yn ei natur. Nid gwneuthur gwaith da yn well na neb arall, ond gwneuthur y fath waith nàs medr un gallu arall ei wneuthur—gwaith perthynol iddo ei hun. Efe yn unig sydd yn alluog i ddechreu y gwaith da yn yr enaid, a'i orphen hyd ddydd Crist. Yr Ysbryd yn unig a argyhoedda yr enaid o bechod, a ddeffry y teimlad goruchel o gyfrifoldeb moesol yn yr enaid, a ddengys y berthynas sydd rhwng pechod â Duw, a'i dadguddia fel drwg ynddo ei hun, yn anymddi- bynol o'r drygau allanol ac anianyddol sydd yn perthyn iddo. Yr Ýsbryd Hydbbf, 1873. i