Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y D YSGED YDD. a'b hwn te unwtd "tr ànnibtnwr." Hbbgsg êtdÿûòol fíätti [Sylwedd Anerchiad a ddarllenwyd yn Jfghynadledd Cymanfa Caernarfon, Gorph. 1865.] Nis gall y mater hwn lai na bod yn ddyddorol ar bob adeg, ond daw yn neillduol bwysig mewn cyfnod fel yr un presenol. Craffer ar yr arwyddion o farweidd-dra crefyddol ag ydynt yn ganfyddadwy ar bob Uawj a meddylier hefyd am yr holl bethau newyddion sydd i dynu sylw pobl ymaith oddi- wrth grefydd a'i dyledswyddau, yn awr, rhagor un cyfnod braidd y gallwn feddwl am dano. Ychwaneger at hynyr ystyriaeth, pa mor ychydig mewn cymhariaeth a welir yn troi i mewn o'r byd yn bresenol, er llenwi y bylchau a wneir gan angeu, a chan wrthgiliadau yn ein heglwysi. Hyfryd iawn a fyddai gweled unwaith yn rhagor, y fath adfywiad grymus yn tori allan ag a welsom flynyddau yn ol, pan y dygid tyrfaoedd o'n hen wrandawyri uchel waeddi am eu bywyd! Ond gwyddom nad yw cyffroad- au felly yn cymerydlle oddieithr anfynych. Pan y deuant dros y wladfel gwynt nerthol yn rhuthro, dylem fod yn ddiolchgar iawn am danynt, a gwneuthur ein goreu i gadarnhau eneidiau y dysgyblion a chwanegir atom drwyddynt. Dichon fod yn well ar y cyfan mai ar amserau nodedig yr ydys yn mwyn- hau cyffrodau felly; ond beth bynag am hyny, mae yn eglur nas gall yr eg- lwysì fyw arnynt yn hollol, mwy nag y gall gwlad fyw ar fuddugoliaeihau achlysurol. Mewn eglwysi yn gystal ac niewn teyrnasoedd, rhaid fod tyý- iant mewnol, cyn y dichon iddynt fod mewn cyflwr cadarn a gwir lwydd- ianus. Oni ofelir am " blant y deyrnas," anmhosibl fydd i hyny beidio dweyd yn ddrwg ar ffyniant y deyrnas. Had yr eglwys mewn modd neill- duol yw gobaith yr egìwys. Os collir y rhai hyn yn niferi mawrion oddi- wrth grefydd, drwy esgeulusdra, pwy all ddirnad maint y golled o un tu, neu faint y gwarthrudd o'r tu arall? Peth mawr yn wir a fyddai gweledy fath adfywiad ar grefydd deuluaidd ar fyrder yn ein mysg, ag a roddai i ni ddiogelwch gwell am feithriniad priodol i'r lluaws rhai bychain a fedyddir genym i Grist Iesu. Y mae diofalwch llaweroedd o rai a ystyrir yn bobl barchus mewn cymdeithas, gyda golwg ar y mater hwn, yn rhywbeth gofidus i feddwl am dano. Wrth fwrw golwg ar y rhai a ddeuant i'r cynulliadau eglwysig, ac a eisteddant wrth fwrdd yr Arglwydd, oni fydd genym mewn Jlaẃer amgylchiad achos i synu a dywedyd, " Wele y rhieni, ond pa le mae y plant?" Ymddengys rhai fel pe na byddai ganddynt ffydd yn effeithiolaeth addysg grefyddol fel moddion achubiaeth i blant o gwbl. Gweithredant fel pe yn credu mai yn y byd y mae y plant i fod, hyd nes i rywbeth mawr goruwchnaturiol Mbhefin, 1873. l