Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD A'E HWN TB ÜNWTD " TE ANNIBTNWB.' AR YR ADNODAU CYNTAF YN Y BÜMED BENOD O'R EPISTOL AT Y RHUFEINIAID. Am hyny. Oblegid y pethau sydd eisoes wedi bod dan sylw yr apostol am lygredigaeth llwyr dynolryw; yr anmhosiblrwydd iddynt i ddyfod i fyny gerbron Duw trwy weithredoedd y ddeddf, am eu bod yn hollolamddi- fad o'r cyfiawnder perffaith a ofyn cyfraith Duw fod ganddynt, mewn trefn i gael eu cymeradwyo o fiaen gorsedd ddifrycheulyd y Goruchaf; ac oblegid y pethau gogoneddus a draethasai Paul yn y penodau blaenorol, am drefn Duw i gyfiawnhau yr annuwiol drwy ffydd yn mherson ac ufudd-dod y Cyfryngwr. Gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd. Gair wedi ei gymeryd oddi- wrth weithrediadau llysoedd barn yw y gair cyfiawnhau, a saif yn wrthgyf- erbyniol i gondemnio. Mae cymaint o debygrwydd rhwng cyfiawnhad dyn cyhuddedig mewn llys barn, a chyfiawnhad pechadur gerbron Duw, fel y mae yn briodol defnyddio yr un gair am y naill a'r llall. Yn y naill amgylchiad a'r llall, ceir fod cyhuddiad yn erbyn dyn fel troseddwr; rhoddir dadl o'i blaid, er ei ryddhad, ac y mae y ddadl hòno yn llwyddo i'w gael yn ddyn rhydd. Ond er fod cryn debygrwydd rhwng cyfiawnhad gerbron dyn- ion a chyfiawnhad gerbron Duw, yn enwedig yn y canlyniadau i'r cyhudd- edig, eto, y mae gwahaniaeth pwysig rhyngddynt. Y diniwaid, neu, o leiaf, y neb na ellir profi ei fod yn euog, a ddaw yn rhydd mewn llys barn, os bydd y llys hwnw yn un cyfiawn; ond yr euog, yr annuwiol, yr hwn y gwyr Duw a'i gydwybod ef ei hun ei fod yn euog, y dyn sydd yn cyfaddef ei euogrwydd, â'r dagrau ar ei ruddiau, sydd yn cael ei gyfiawnhau gerbron Duw. Trwy ei gyfiawnder ei hunan y rhyddheir y cyhuddedig mewn llys barn; ond trwy gyfiawnder un arall y rhyddheir pechadur gerbron Duw; trwy ffydd, medd Paul; pnd pa fodd y mae pechadur yn cael ei gyfiawnhau trwy ffydd ? Nid fiydd y pechadur ydyw yr achos gwreiddiol o'i gyfiawn- had. Cariad a gras Duw ydyw yr achos gwreiddiol. Nid ffydd ydyw yr achos haeddianol chwaith. Gwaed Crist ydyw hwnw. Nid ffydd yw y cyfiawnder a roddir o'i blaid er ei ryddhad gerbron gorsedd yr Anfeidrol, ond haeddianau y Cyfryngwr, yn yr oll ag yw, a'r oll a wnaeth dros yr euog, hyd angeu y groes. Er hyny, ffydd y pechadur ydyw yr achos offerynol o'i gyfiawnhad. Nid oes dim haeddiant mewn ffydd. Yr hyn sydd ddy- ledus oddiwrth ddyn i Dduwydyw. Ar yr un pryd, flfydd sydd yn uno yr enaid â Iesu Grist fel y byddo yn aelod o'i gorff, o'i gnawd, ac o'i esgyrn ef. Trwy undeb â Christ y cyfiawnheir dyn, a ffydd ydyw modrwy yr undeb o duy pechadurj a dylanwad dwyfol a grasol, a rhwymyn y cyfamod gras, sydd yn Ebeill, 18T3. o