Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. a'e hwn tk unwyd "yb annibynwb.* SYLWADAU AK IOAN XXI. "Ydrydedd waith." Yr oedd mewn gwirionedd y seithjed troi'rlesu ymddangos ar ol ei adgyfodiad. Pa le y mae y cysondeb rhwng y ddau hanes? Ymddangosodd bum' waith ar y dydd cyntaf, felly, cyfrifir yr ym- ddangosiadau hyny fel un, a daw hwn felly yn drydydd. Neu, efallai mai y drydedd waith yn gyhoeddus a olygir. Yr oedd yraddangosiadau blaenorol Crist ar y "dydd cyntaf o'r wythnos." Y mae y ffaith fod Simon a'i frodyr. "yn myned i bysgota," yn ddigon i brofi mai nid ar y dydd cyntaf yr oedd yr ymweliad hwn. Y mae hyn yn awgrymu, os nad yn profi, nad yw presenoldeb yr Arglwydd yn cael ei gyfyngu i le nac amser neillduol. I. " Wrth fôr Tiberias." Enw newydd ar hen fôr Galilea. Enw yn arwyddo darostyngiad y wlad o dan iau Rhufain. Y mae y Cymry yn gyndyn iawn i fabwysiadu enwau Seisnig ar hen leoedd Cymreig; ond pe buasai yr enwau hyn yn arwyddo darostyngiad gan y Saeson, mor gyndyn a fuasai y brodorion i'w defnyddio! Y mae gwaith Ioan yn galw * y lle ar enw Tiberias, yn profi nad oedd yn eithafol yn ei deimlad cenedlol fel Iuddew. Dynion diwerth, îe, poenus i gymdeithas yw dynion eiihafol. II. Pwy oeddyntî " Simon Pedr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanäel o Cana yn Galilea, a meibion Zebedëus, a dau eraill o'i ddysgybl- ion ef." (Mae'n debyg mai Phylip ac Andreas oeddynt). Yn y benod gyntaf a'r olaf o Efengyl Ioan yn unig y cawn enw Nathanäel. Y mae hyny yn hynod; ond os yr un oedd (fel y tybia rhai) a Bartholomëus, y mae pob rhwystr cysylltiedig â'i enw yn ffoi. Beth oeddynt yn geisio yn Galileaì Onid yn Jerusalem y dylasent fodî Paham nad arosasent yno i ddysgwyl am addewid y Tad, gan mai yn Jer- usalem yr oedd yr Iesu wedi ymddangos iddynt? Ai wedi dianc yr oeddynt rhag ofn yr Iuddewon? Buasem ni yn barod i gasglu hyny, a phriodoli eu gwaith yn dianc i Galilea i'w gwendid. Ond mor ofalus yw yr Ajglwyàd am gymeriad ei bobll Yr oeddynt yn Galilea drwy orchymyn euMeistr. " Eithr wedi fy adgyfodi, mi a äf o'ch blaen chwi i Galilea," Mat. xxvi 32. Felly y dywedodd yr angel, " Ac wele y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi," Mat xxvül 7. III. " Ýr wyf fi yn myned i bysgota—yr ydym ninau hefyd yn myned.'' Ai i ymblesera a bwrw yr amser heibioî Nid wyf yn condemnio hyny. Y Mawbth, 1873. e