Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDTDD a'b HWN TB DNWYD " YB ANNIBYNWR."i glarfo i'r gbtöòf, " Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf; ond pan ddaeth y gorchy- myn, yr ad%f#iodd pechod, a minau a fum farw." Felly y dywed Paul ani dano ei hun yn y seithfed benod o'i Epistol at y Rhufeiniaid. Yn y geiriau a ddyfynwyd uchod, cawn olwg arno mewn dwy sefyllfa; sef, yn ei gyflwr annychweledig, yn fyw heb y ddeddf; ac yn ei ddychweliad, pan y bu farw i'r ddeddf, dan ddylanwad cryf a threiddiol y gorehymyn. Mae dynion yn methu cydweled yn nghylch rhai pethau yn y benod hon. Gofynir, " Pa ddeddf sydd gan yr apostol mewn golwg yma ?" Y ddeddf yr hon a ddy- wed, " Na thrachwanta," sef y ddeddf foésol, a olyga ef yn benaf, er y gall y gair gynwys yr oll a orchymyna Duw i ddyn fel creadur cyfrifol i'w orsedd Éf. Gofynir drachefn, " Pa un ai llefaru am dano ei hun fel dyn annychweledig, neu ynte fel Cristion, y mae yn y benod bwysig hon?" Ŷr ateb yw, Pob un o'r ddau. Pan ddywed ei fod gynt yn fyw heb y ddeddf, eglur yw ei fod yn cyfeirio at yr hyn oedd, fel Pharisead aiddgar, cyn ei dröedigaeth; ond pan ddywed, " Canys ymhyfrydu yr wyf yn nghyfraith Duw, yn ol y dyn oddimewn," rhaid ei fod yn traethu syniad a theimlad ei galon fel Cristion, oblegid nid oes neb a all ddywedyd hyny, a dywedyd y gẃir, ond y dyn y byddo cyfraith yr Arglwydd wedi ei hysgrifenu ar ei galon, gan yr Ysbryd Glan. Os yw dyn wedi ei gymodi â chyfraith a cbyfiawnder Duw, mae hyny yn brawf cryf ei fod yn Gristion. Mae yn hawddach gan ddyn feddwl yn barchus am drugareddau yr Arglwydd, na'i gyfiawnder; ond os gall efe ddywedyd yn onest ei fod yn ymhyfrydu yn eig- ion ei galon yn nghyfraith y Goruchaf, rhaid ei fod wedi myned drwy gyf- newidiad grasol a rhyfedd. " Heb y ddeddf." Ni olyga yr apostol yn ddiau ei fod gynt yn rhydd oddiwrth ofynion y ddeddf, ac nad oedd yn ddeiliad iddi, oblegid raae cyfraith foesol Duw yn gofyn perffaith ufudd-dod gan bob creadur rhesymol drwy y bydysawd, yn ol y graddau y datguddiwyd hi i'r cyfryw. Hyhi ydyw deddf fawr trigolion y byd hwn, preswylwyr y nefoedd, a thrigolion y dyfnder hefyd. Gallai ei bod yn wahanol o ran ei ffurf mewn bỳdoedd eraill, rhagor yr hyn ydyw yn y byd hwn; oblegid fod sefyllfaoedd a chy- sylltiadau y trigolion yn gwahaniaethu yn y rhai hyny; ond yr un yw egwyddor fawr y gyfraith yn mhob byd, sef, cariad pur at Dduw, ac at eu gilydd fel creaduriaid y Goruchaf. Cyfraith foesol Duw ydyw deddf fawr trigolion y nefoedd; ond pe cyhoeddid hi ar un o fynyddoedd y wlad hòno fel y cyhoeddwyd hi ar Sinai gynt, gallai na fyddai y gorchymyn am gadw Chwehior, 1873. " o