Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDTDD. A'E HWN TK UNWYD " TE ANNIBYNWR." Daeth Paul a Silas, a Thimotheus hefyd gyda hwynt, ar eu teithiau cen- adol, drosodd o Asia i Macedonia, i efengylu, mewn ufudd-dod i wahoddiad a gawsai Paul mewn gweledigaeth liw nos i wneuthur felly. Dechreuodd y cenadon ar eu gwaith yn ninas Philippi, a bu Uaw yr Arglwydd gyda hwynt. Agorodd yr Arglwydd galon Lydia, ac eraill hefyd gyda hi, i ddal ar y pethau a leferid. Ond pan fwriodd Paul ysbryd dewiniaeth allan o ryw lances oedd yn peri llawer o elw i'w meistriaid wrth ddywedyd dewin- iaeth, dalìwyd Paul a Silas, a llusgwyd hwy i'r farchnadfa at y llywodr- aethwyr, y rhai a orchymynasant eu curo- â gwiail, a'u carcharu. Y ddau genadwr, wedi cael gwialenodiau lawer, a fwriwyd i'r carchar nesaf i mewn; a gwnaed eu traed yn sicr yn y cyffion. Ond y mae crefydd Crist yn gall- uogi dynion i orfoleddu mewn gorthrymderau. Gweddîo a chanu mawl i Dduw yr oeddynt hwy ganol nos, dan eu briwiau, ac yn y cyffien, nes y deffrodd y carcharorion wrth sain hyfryd eu peroriaeth. Yn yr awr hòno hefyd, bu daeargryn mawr, siglwyd seiliau y carchar, agorwyd ei holl ddrysau, ac aeth rhwymau pawb yn rhyddion, fel pe buasent wedi eu gwneuthur o dywod glàn y môr. Deffrodd ceidwad y carchar yn y cynhwrf, gwelodd fod drysau y oarchar yn agored, a thynodd ei gleddyf, gan amcanu lladd ei hun; o herwydd tybiodd fod y carcharorion wedi ffoi ymaith. " Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwaid; canys yr ydym ni yma oll." Yna, wedi galw am oleu, efe a ruthrodd i mewn yn ddychrynedig, ac a syrthiodd wrth draed Paul a Silas, ac a'u dug hwynt allan, gan lefain, " O feistriáid, beth sy raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedigî" Ond yn ffodus, yr oedd yr unig ddynion yn ngwlad Groeg a allai ateb y fath ofyniad yn ei ymyl. " Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig íyddi, ti a'th deulu," ebai y cen- adon. Traethodd Paul a Silas iddo ef a'i dylwyth air yr Arglwydd; cred- asant hwythau y dystiolaeth, a bedyddiwyd hwy oll yn y man, heb fyned at yr afon, na dim o'r fatb. Cafodd Paul a Silas ymgeledd ar aelwyd ceid- wad y carcbar, a Uanwyd y tŷ o lawenydd pur. Ymddengys i mi y rhaid fod ceidwad y carchar, neu rai o'i deulu, wedi bod yn gwrandaw y cenadon yn pregethu yn rhywle yn y ddinas, Nid wyf yn meddwl fod y ewestiwn a ofynodd ef i Paul a Silas yn un y buasai dyn na chlywsai erioed am ei gyflwr colledig, fel pechadur, yn debyg o'i ofyn. Ac hebìaw hyny, mae eu hateb hwythau fel yn rbagdybied ei fod wedi clywed rhywbeth am yr Arglwydd íesu Grist. Gallai mai un o'r teulu a glywsai y cenadon yn pregethu, ac a adroddasai y pregethau wrth Ionawk, 1873. a