Skip to main content

Y DYSGEDYDD: a'h hwn yr unwyd " yb annibynwb." Unìitb gr JwmírünfoDr €%mttÌQ. DYSGYBLAETH EGLWYSIG. GAN Y PARCH. W. EVANS, ABERAERON. äíae yn angenrheidiol fod ein golygiadau yn glir ac ysgrythyrol am natur a chyfansoddiad eglwys y Testament Newydd, tuag at synied yn gywir am ei dysgyblaeth. Gan hyny, cyn ymdrin yn neillduol â'r mater hwn, gwnawn I. E.AI NODIADAU ABWEINIOL. 1. Ar y berlhynas sydd rhwng Crist ar Eglwys. Oddiwrth hyn y gallwn benderfynu helaethder yr awdurdod sydd ganddo ynddi hi—yn mha ystyr, ac i ba raddau yr ydym i ddeall am dani fel Eglwys Crist. A yw hi felly yn hollol neu mewn rhan ì Os yn hollol, ar ba seiliau y gorphwys ei hawl a'i feddiant ef ynddi ì Mewn atebiad gellir dweyd fod ganddo ef eglwys yn y byd, yr hon sydd ar ei enw, a'r hon nas gellir ei galw ar enw neb arall. Efe ydyw ei Phrynwr, ei Sylfaenydd, a'i Brenin. Gelwir hi ei dý, eìgorff, ei briodasferch, a'i Jrenhiniaelh. Fel canlyniad mae ganddo awdurdod or- uchel ynddi. Pan oedd yr Arglwydd yn myned i sefydlu trefn a rheolau yr eglwys gynt yn y diffaethwch, dywedai wrthi, iC Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed." Yr oedd ei hawl anaralladwy i fod yn Frenin arni, ac i osod deddfau a barnedigaethau, a'i rhwymo i'w cadw, yn gorphwys ar y berthynas oedd rhyngddi hi ag ef fel ei Phrynwr. A phan y gwrthgiliai yr hen eglwys oddiar ffordd ei orchymynion ef, cawn yr Arglwydd yn ei hadgofio o'i rhwymedigaethau iddo fel ei Duw a'i Gwaredwr. Yr un modd yn union mae pethau yn sefyll rhwng yr Arglwydd Iesu Grist a'r eglwys. Gelwir hi " eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed." Y prynedigaeth yw sylfaen ei awd- urdod ef yn ei eglwys. Ganddo ef yn unig mae yr hawl i sefydlu eglwys yn y byd, a gosod trefn a rheolau ynddi. Gan hyny, mae dysgyblaeth. eglwys Crist i gael ei gweinyddu yn ei enw, ac yn ol ei feddwl ef. Tybier fod dynion yn myned yn nghyd a gwneud eglwys, neu yr hyn a dybient hwy îelly, a dyfeisio ffnrf, rheolau, a threfn iddi yn ol eu chwaeth a'u mympwy, a'i gosod i fyny drwy awdurdod dynol; a rhwymo eraill i fod yn aelodau o honi, ac i gydymffurfio â'i defodau; ac er mwyn sicrhau nawdd a bendith Duw ar eu gwaith, yn ei gpsod ar enw Crist drwy weithred o gysegriad cyhoeddus. Mae hyn wedi ei wneud. Ond a yw yn bosibl Rhaofyb, 1672. z