Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YDYSGEDYDD: a'r hwn tr ünwyd "yr a.nnibynwr/ (íabtótgtttfjr a CJwííebijg&etjj l^abttr. ẅ "Aoosbraidd y mae y cyâawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiola'r pechadurî" 1 Pedr iv. 18. Mae hi yn ddeddf o osodiad Duw nad oes dim gwerthfawr i'w gyrhaedd ond drwy lafur. " Trwy chwys dy wyneb y bwytâi fara," oedd drefnianfc o^eiddo'r Brenin mawr i'n rhieni cyntaf. Nid oes cyfoeth i'w gael ond drwy lafur, na golud o'r cloddfeydd o dan y ddaear, na chynnyrch oddiar wyneb y ddaear. Mae pob llwyddiant mewn pethau meddyliol i'w gyrhaedd drwy lafur. Rhaid ceisio gwybodaeth fel ceisio arian, a chwilio am dani fel am drysor cuddiedig. Drwy lafur y mae i ddyn ddysgu unrhyw grefft neu alwad, a tbrwy lafur y mae i ddyn fod yn grefyddol: 4< Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awrhon." Diamheu nad oes un addÿsg ag sydd yn fwy anhawdd ei meistroli nag addysg grefyddol, er fod yr addysg yn gyrhaeddadwy i bob dyn. Ar ol pob ymdrech, nid oes gan y crefyddwr mwyaf ymdrechgar ddim yn weddill; " o'r braidd y mae ef yn gadwedig." Gan hyny, medd yr apostol, y mae'r dyn diymdrech yn sicr o gael ei golli. I. Yr anhawsdra i'r cyfiawn i fod yn gadwedìg. 1. Mae ennill dynion i ysbryd gwÿbodaeth am y drefn yn anhawdd iawn. Y cain cyntaf at ddysgu yn effeithiol yw ennill yr ewyllys; ac os unwaith yr ennillir yr ewyllys, mae dynion yn dysgu yn llawer rhwyddach wed'yn; ac y mae bod mewn ysbryd gwybodaeth grefyddol yn hanfodol i grefydd o hyd. Pan y collwn ysbryd gwybodaeth grefyddol, yr ydym ar yr un pryd yn colli crefydd. Morwr, wedi cclli ystryd gwybodaeth am ei alwad, sydd forwr gwaelj ond y mae'r morwr da yn forwr o dueddfryd, ac am gael gwybod rliagor o hyd am ei alwad. Mae pawb yn dysgu peth ond cael ysbryd gwybodaetb. Annhueddrwydd at grefydd yw tarddle anwyb- odaeth grefyddol. Anhawdd iawn yw cael dynion i dymher briodol i gael gwybodaeth grefyddol, a'u hennill i'r fan hon yw gorchwyl mawr gweinid- ogaeth y gair. 2. Mae dysgu, ar ol cael pobl i dymher ac awydd dysgu, yn arhawdd. " Os ceisi hi fel arian, os chwili am dani fel am drysorau cuddiedig." " A'r neb a chwanego wybodaeth a chẁanega ofid." Er i ni ddeall egwyddorion symlaf crefydd, a gwybod ei moes-wersi, nid mor rhwydd y medrwn eu gosod mewn ymarferiad. "O'nd caffed amynedd ei pherffaith waith.'' Mor anhawdd i ni gydffurfio â'r rheol hon, a bod yn amyneddgar yn wyneb pẃ Hydeef, 1872. i