Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSUEDTDD a'e hwn tr tjnwyd "yr annibynwr." SEF MR. WILLIAM DAVIES, MAESYGROES, CILCAIN, SIR FFLINT. Pfi taflai y Foelfamau ei chysgod yn uchel ac yn llydsn ddwy awr cyn machlud yr haul heddyw, (Awst 7fed, 1872), yn y cysgod hwnw gorwedd- ai y gymydogaeth yn yr hon y ganwyd ac y treuliodd W. Davies ei oes, a chylch ei adnabyddiaeth neillduol a'i ddylanwad. Er fod ei enw a'i wyneb yn adnabyddus iawn mewn rhai ardaloedd'cylchynol, nid oedd nemawr un o Gilcain i'r Wyddgrug, nac o'r Foelfamau i ddyfFryn Migillt, heb fod yn dra gwybyddus o'i enw, neu adnabyddus o'i berson. Pe caem olwg ar y wlad dan gysgod mawr llydanfrig felly, byddai hyny yn ddarlun o sefyllfa foesol ac ysbrydol y gymydogaeth pan anwyd William Davies: " Tywyll- wch a orchuddiai ddaear" ei gymydogaeth enedigol, "a'rfagddu y bobl- oedd." Pedwar ugain mlynedd yn ol (1792) yr oedd plwyf Ciìcain, megys y rhan fwyaf o blwyfi Cymru, a'r rhan fwyaf o'r trigolion yn dywyll, ofergoelus, anystyriol, a diofn Duw. Cydymgynnullai y plwyfolion, yn hen ac ieuanc, gydag ychydig eithriadau, i fan gwastad cyfleus i wrth- ymlid y bêl droed ar y Sabbathau—chwareu a gydieuid â chyfeddach a meddwdod, ac yr oedd gwylmabsant, yr hon a barhai am ddyddiau lawer yn dra blodeuog, ac yn ddifyrwch mawr y werin. Nid oedd ofn yr Ar- glwydd yn y wlad, na pharch i'w ddeddfau. Ar amser tywyll, Uawn anystyr- iaeth ac annuwioldeb, y ganwyd y diweddar William Davies, Maesygroes, mewn tafarndy yn Bryn Gruffydd, ger y Wyddgrug, yn y flwyddyn 1792. Arferai llu mawr o bobl yr ardaloedd dyru yn nghyd ar y Sabbathau, i gae eang, cyfleus, tucefn i dŷ ei dad, i gicio y bêl droed, pan oedd efe yn cofio gyntaf, er fod pregethu yr efengyl yn Llynypandy, gan y Methodistiaid; ac yn y flwyddyn 1804, yr ydym yn cael fod y Parch. James Morris, gwein- idog yr Annibynwyr yn Mwcle, yn pregethu yn nhŷ un John Edwards, y Waen. Yr oedd ambell lusern yn goleuo yma a thraw yn y Waen, ac o'i hamgylch, ond gwneuthur drwg ar y Sabbathau, ymlid y bêl, a dilyn y gwylmabsant yr oedd y lluaws. Lle annhebyg iawn i gael dyn ieuanc ynddo yn ofni yr Arglwydd ydyw tafarndy, ac wrth edrych ar annuwioldeb yr ardal, priodol iawn y gofyniad, "A ddichon dim da ddyfod o NazaretM" Mangre ddifl'aeth i flaguryn ireidd-dwf dyfu ynddi oedd Bryn Gruffydd yn nyddiau bachgendod Wiüiam Davies; ond yrydym yn ei gael fel "lili yn mysg y Mbdi, 1872. r