Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'r hwn yk unwyd "yb annibynwb." %ohtxt $}üfortst fätth&n. " Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd." Felly yn llythyrenol bron y gwelodd ei Dad nefol yn dda i'r brawd a'r cyfaill anwyl uehod gael ei gymeryd oddiar y ddaear. Wrth ddychwelyd adref o farchnad Caergybi ddydd Sadwrn, Gorphenaf y 29ain, 1871, "ar y ffordd" yn agos i'r Valley, cyfarfu â damwain drwy syrthio oddiar ei ferlen, a brofodd yn angeu iddo tua naw o'r gloch boreu y dydd Llun canlynol. Mae yn ddirgelweh pa fodd y dygwyddodd y ddamwain, gan nad oedd neb yn ei ymyl ar y pryd; ac nis gallodd yntau egluro pa fodd; oblegid bu mewn cyflwr o ddideimladrwydd hyd nes tynu ei anadl ddiweddaf. Bernir iddo gael math o lewyg. Buan yr ymdaenodd y newydd galarus fel trydan drwy y wlad. Yr oedd ardal Bryngwran yn enwedig wedi ei tharo â braw a dychryn: daliai pawb euhanadl mewn pryder rhwng ofn agobaith o'r amser y dygwyddodd y ddamwain nes i'w enaid anfarwol ehedeg i fyd yr ysbryd- oedd. Sabbath i'w hir-gofio gan gynnulleidfa Salem, Bryngwran, fyddSabbathy 30ain o Gorphenaf, 1871. Yr oedd yr ysgrifenydd yn dygwydd bod yno yn ceisio pregethu iddynt; ac nid anghofia yn fuan y teimladau rhyfedd oedd yn ei feddiannu ef a'r gynnulleidfa. Teimlai ei fod mewn " tŷ galar," a hwnw yn alar, nid mewn rhith, ond mewn gwirionedd; aç fod yr eglwys yn teimlo fel plant yn sefyll wrth erchwyn gwely angeu, ac yngwylio mynydau olaf tad tyner, caredig, a gofalus. Ŵrth geisio ei gofio gerbron gorsedd gras, teimlem fod rhyw ddwysder angerddol, dwfn, dystaw, aç ofnadwy drwy y lle, fel pe buasai holl bwysau pob teimlad yn yr addoldy yn crogi wrth ein geiriau. Ac nid rhyfedd, oblegid yr oedd yr hwn ^edd hoff iawn ganddynt yn glaf ac yn agos i angeu. Bu farw y boreu can^ynol, yn 57 oed. Claddwyd ef ddydd Gwener, Awst y 4ydd. Daeth torf fawr a pharchus o'r cymydogion a'r perthynasau, a'r rhan fwyaf o weinidogion a phregethwyr j sir, i hebrwng ei weddillion marwol i dŷ ei hir gartref yn mynwent Llan- beulan; lle y gobeithiwn i'w lwch gaél heddwch i orphwys, heh i neb ei aflonyddu hyd foreu mawr caniad yr udgorn,— "Pan fydd dorau beddau'r byd Ar nn gair yn agoryd," ac y daw yntau i fyny wedi ei " ddigoni" â delw ei Brynwr. Mae enw a chymeriad hen deulu parchus Pandy, Treban, yn eithaf adna- byddus i holl Annibynwyr Môn, ac i luaws yn siroedd erailJ Cymru. Gellir Awst, 1872. r