Skip to main content

Y DYSGEDTDD a'b hwn tr unwtd "yr annibynwb." f fojrsigrto|ŵ!tr feîtjgmfttàr égltogstg. "A llywodraethed tangnefedd Dnw yn eich calonau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar," Col. iii. 15. Yr urddas penaf a esyd Duw ar ddyn ydyw ei ethol i santeiddrwydd a gogoniant, " Y rhai a ragwybu efe," a'r "rhai a ragluniodd efe," ydyw "rhai rhagorol y ddaear," a gemau'r nefoedd. Ac y mae Paul bron bob amser "y yn cysylltu etholedigaeth ag ymarweddiad crefyddol, —' Megys etholedigion Duw, santaidd ac anwyl, gwisgwch am danoch ymysgaroedd trugareddau," &c. Tra yr ydym yn canfod rhai dynion am sefydlu agendor rhwng ethol- edigaeth gras ac ymarferiad o grefydd Iesu Grist—am ymlid y naill ymaith pan wna'r llall ei ymddangosiad, neu am fynu haeru nad ydynt i'w cysoni â'u gilydd, canfyddwn Paul yn wastad yn eu cysylltu fel achos ac effaith. Y grasusau a gymhella yr apostol ar y Colossiaid ar gyfrif eu hetholedig- aeth ydyw tynerwch, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros, "Gan gyd-ddwyn â'ch gilydd, a maddeu i'ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb." Cynnwysa'r " cweryl" hwn ryw achwyniad gwirioneddol. Mae llaweroedd yn digio â/u, gilydd heb yr un achos. Daw *-lM athrodwyr rhwng cyfeillion a rhwng brodyr. Dywedir anwireddau yn nghefnau personau, y naill am y llall, nes i oerfelgarwch fagu rhyngddynt. Oera brawd at frawd, heb fod y naill yn gwybod am rith o reswm dros yr oerni, na'r llall ond am dystiolaeth gelwyddog rhyw gynhenwr. Pan gan- fyddir yr athrod, y gynhen a'r celwydd, nid oes gwaith maddeu yma. Ond yn yr adnod hon, "Os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb"—os bydd sicr- wydd fod brawd wedi eich niweidio yn fwriadol yn eich amgylchiadau neu eich enw da, neu mewn unrhyw fodd, yr ydych i gyd-ddwyn â'ch gilydd, a maddeu i'ch gilydd. Yr ydych i wisgo maddeugarwch fel dilledyn. Os ydych yn coleddu ysbryd anfaddeuol wythnos ar ol wythnos, mae yn brawf digonol nad ydych wedi dyfod "O dywyllwch i'w ryfeddol oleuni Efj" " Oblegid yr hwn a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn." Yn Dglŷn â chymhellion o'r natur yma y dygir y testun hwn i mewn. Tangnefedd sydd yma trwy*r adnod; tangnefedd fel y cyflwr i'r hwn y'n galwyd; tangnefedd fel gallu sydd i'n llywodraethu; a thangnefedd fel cyn- nyrchydd mawr tynerwohycrefyddol. Mewn rhai cyfieithiadau diweddar, GOBPHBNAF, 1872. *-' N