Skip to main content

Y DYSGEDTDD A'E HWN TB ÜNWTD "TE ANNIBTNWB." Jp; p; ÿìrŵìr §éhît fa. Dysgybl. Dydd da i chwi. Ni wn i ddim pa bryd y cewch lonydd genyf bellach. Dyfod a wnaethum heddyw, drachefn, i gael ychydig yn ychwaneg o ymddyddan â chwi yn nghylch materion cyffelyb i'r rhai íu dan ein sylw y tro diweddaf y bum yma. Nid wyf yn meddwl y rhwystraf chwi yn hir; a gobeithiaf nad y w fy ngwaith yn galw gyda chwi yn ddiry- budd fel hyn yn eich dyrysu yn nygiad eich gorchwylion angenrheidiol yn mlaen. Athraw. Mae i chwi groesaw. Darllen yr ydwyf ryw draethodau perthynol i gyfarfod llenyddol, fel mater o ddyledswydd, yn hytrach na hyfrydwch, a bydd yn burion genyf gael newid gwaith am ychydig o amser. Mae newid gwaith, meddai ein tadau, gystal a gorphwyso. Dysgybl. Meddyliais lawer yn yr wythnosau diweddaf am y pwnc a fu dan ein sylw o'r blaen, sef, dyn fel deiliad deddfj a pho fwyaf a feddyliwyf am dano, eangaf yn y byd y mae yn ymddangos i mi. Y mae dyn yn ei ddyfodiad i'r byd yn dyfod yma fel deiliad llywodraeth a deddfau teuluaidd. Athraw. Ydyw; ac ni wn i am unrhyw lywodraeth sy mor debyg i lywodraeth foesol y Goruchaf ag ydyw llywodraeth rhieni dros eu plant, ar eu haelwyd gartref. Gwir yw, nad oes gan dad a mam hawl i osod deddf- au i'w teuluoedd a fyddont yn groes i gyfreithiau y Brenin mawr; er hyny, rhaid i reolau teulu a lywodraethir yn dda, gynnwys llawer o fân ddeddfau na cheir yn y Beibl ddim yn benodol a ffurfiol gyda golwg arnynt. Dysgybl. Wedi gadael aelwyd ei rieni, drachefn, mae dyn dan ddeddfau y wladwriaeth y perthyn iddi, ac y raae y rhai hyny a'u gafael ynddo yn barhaus, a rhaid eu cadw yn wastadol. Athraw. Ehaid. Oni cheidw dyn ddeddfau ei wlad, buan y dysgir ufudd-dod iddo "â drain yr anialwch, a mieri." Dir yw, na ddylai lly wodr- aeth wladol osod deddfau ar y deiliaid fyddcnt yn croesi cyfreithiau yr Arglwydd; ond rhaid i ddeddfau gwladol fod yn dra amrywiol o ran eu ffurfiau a'u hamcanion, mewn gwahanol wledydd, a than wahanol amgylch- ìadau. Sicr ydyw, fod yr egwyddorion sydd i fod yn sylfeini cyfreithiau cenedl, i'w cael yn Ngair Duw; ond am ddull a threfn y fath ddeddfau, ymddibyna hyny ar farn y llywodraethwyr, i raddau helaeth. Mae yn ddyled- swydd a gymhellir yn bendant yn Ngair yr Arglwydd, ar ddynion i ufudd- hau i'r awdurdodau goruchel; ond y mae hyn i'w ddywedyd, pan fo Mehbfin, 1872. l