Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: a'b hwn yb unwyd "yb annibynwb." ^mrrfriab i Jfefgrfogr &akf$ &nráb%twl g §aí&r- Mawrth 14, 1872, gan y pabch. w. griffith, caergybi. "Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu am danom ni, o herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef." Ymrwymais o'r blaen, bum ml. yn ol, i gyflawni hyn o orchwyl. Ond fe'm lluddiwyd gan y Meistr. Gwelodd yn dda fy rhoddi eilwaith yn yr athro/a am bedair blynedd—sef athroýa cystudd. Ac un ragorol o dda yw hi, er ei bod yn un lled ddrud. Dyna dystiolaeth pawb o'r brodyr a fu ynddi erioed. Hyderaf y gallaf finnau ddweyd mai "da oedd i mi fy nghystuddio." Yr ydys wedi dysgu llawer owersi d& yno, a'u dysgu yn llawer gwell nag y gallesid eu dysgu yn unman arall. Y mae yn ddiamheu genyf, fod yr Arglwydd yn fynych yn cystuddio ei weision— nid yn gyinaint mewn ffordd o gerydd am ryw ýai neillduol—ond yn hytrach i'w cymhwyso at ryw wasanaeth neillduol drosto yn y byd. Efallai, fy mrodyr, y bydd i chwi gofio hyn o sylw—ac y bydd cofìo hyn yn gysur i chwi etto, yn nyddiau tywyllwch, a ddichon fod yn eich aros chwithau hefyd. "Ac yn awr, beth a ddywedaf?" Dyna y meddwl a ddaeth gyntaf i mi wedi eistedd i lawr gyda'r bwriad i'ch anerch fel hyn. "A pha beth a ddywedaf nis gwn"— dyna yr ateb a gefais:—a phe buaswn wedi ei gael yn gynt, y mae'n debygol iawn mai ateb gwahanol, a mwy priodol hefyd, a gawsai eich Parchedig Ysgrifenydd genyf finnau, pan y gofynodd i mi ymgymeryd â'r gwasanaeth hwn. Ond bellach rhaid gwneud yr hyn a allom. Ac i'r dyben hyny, ni a ranwn eich tymhor chwi, frodyr ieuainc, i dri cyjnod. A dyna y blaenaf,— Eich dyfodiad yma. Y mae hwnw yn mhlith y pethau a fu. Y mae wedi myned heibio, ac nid oes galw yn ol arno mwyach. Ond gellir ei alw i gôf—a diau eich bod yn gwneud hyny yn fynych, ac yn gwneud hyny gyda gradd o bryder. A dyna'r pryder onide, A ydym ni yn alwedigion yr Arglwyddî "Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd; a'r rhai sydd gydag ef, sydd alweéig, ac etholedig, a ffýddlawn." Maent wedi eu galw o'r byd i'r eglwys, a'u galw nefyd o'r eglwys i'r pulpud. Heb y cyntaf, üid oes neb yn Gristion. Heb yr ail, nid oes neb yn bregethwr. Galwad rasol ac achubol yw y gyntaf, ar ddyn ei hun yn bersonol, o dywyllwch i Mai, 1872. i .