Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD a'b hwn TE UNWTD j"YE annibynwe." CYDYMDDYDDAN EHWNG DYSGYBL A'l ATHEAW. DySGYBL. Boreu da i chwi. Byddai yn hyfrydwch genyfgaelychydig o ymddyddan â chwi ar fater sydd yn ymddangos i mi yn un pwysig a dyddorol; a chan mai boreu ddydd Llun ydyw, ar yr hwn nid yw pregethwyr a fuont yn llafurio yn galed ar y Sabbath, yn teimlo yn hwylus iawn i ddarllen nac i ysgrifenu llawer; etto gallai na fyddai genych wrthwynebiad i dreulio hanner awr mewn cydymddyddan rhydd ar bwnc duwinyddol, athronyddol, neu beth bynag arall y gelwch ef. Byddai hyny yn fanteisiol i mi, ac ond odid, yn adloniant i chwithau. Atheaw. Croesaw i chwi. Yr ydych wedi deall cyflwr pregethwr ar foreu ddydd Llun yn bur dda. Ond, attólwg, pa bwnc sydd ar eich meddwl i'w ddwyn yn mlaen fel testun ein hymddyddan? Dysgybl. Dyn fel deiliad deddf, ac ar yr un pryd, dan ddeddf yn greadur rhydd. Mae y pwnc hwn yn ymddangos i mi yn bwysig, mewn mwy nag un ystyriaeth; ond y mae graddau o dy wyllwch yn aros arno, yn ol fy syniad i, o leiaf, ac arno y bydd hefyd, yr wyf yn ofni, oddieithr i mi gael help o rywle i'w ymlid ymaith. Atheaw. Nis gwn a allaf fi eich cynnorthwyo i ddyfod allan o'ch dyrys- wch ai peidio. Mewn pynciau tywyllion mae o bwys mawr i ni fod yn arafaidd, pwyllus, a gofalus; ac y mae Uawer yn ymddibynu ar gywirdeb yr egwyddorion a ddefnyddiom i geisio egluro y fath bynciau. Ymddengys i mi, na all dyn, fel creadur ymddibynol ar Dduw, ac ar ei gydgreaduriaid hefj d, lai na bod yn ddeiliad deddf. Y mae felly o angenrheidrwydd. A dywedaf ychwaneg na hynyna, y mae, nid yn unig yn ddeiliad deddf, ond yn ddeiliad deddýau lawer. Y mae wedi ei gylchynu gan ddeddfau. Maent oll a'u gafaelion yn gedyrn ynddo, ac amryw o honynt wedi eu cydwau â'i natur. Dysgybl. Eglurwch ychydig ar eich meddwl, os gwelwch yn dda. Atheaw. Diau genyf y cytunwch â mi fod dyn, fel creaduriaid eraill, o ran ei gorff, dan ddylanwad deddf fawr, gref, a chyffredinol at-dyniad. Mae y gyfraith hòno yn ei ddal yn dỳn, ac yn ei gadw ar hyd ei oes yn garcharor yn ei chadwynau. Ni all symud llaw na throed ond yn ol y graddau o ryddid a ganiatao y ddeddf hon iddo; ac er y caiff ddefnyddio dwfr a gwynt, agerdd a thrydan, i wrthweithio ei dylanwad, etto, ni ollwng y gyfraith hon ef allan o'i gafaelion. Ehaid iddo foddloni i aros dan ei dylanwad yn barhaus, a gofala hi nad â yn uchel oddiwrth wyneb y ddaear, ac na symuda ar ei Ebeill, 1872. o