Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD A'R HWN YK ÜNWYD "YK ANNIBYNWE.,' €úon §itrt x (blpùìo ŵteir. " Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw."—Mat. v. 8. Ar ol y bregeth gyntaf a draddododd yr Arglwydd Iesu Grist yn synagog Nazareth, dywedir fod "pawb yn dwyn tystiolaeth iddo," ac "yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o'i enau ef." Mae yr ymadrodd yna yn ddynodiad cywir o nodwedd gweinidogaeth gyffredìn yr Arglwydd Iesu. • Medrai, pan y byddai galwad, ddweyd ymadroddion cryfion, cyrhaeddgar, y rhai a drywanent fel cleddyfau trwy galonau ei wrandawyr, nes peri i'r rhai mwyaf anystyriol a rhyfygus o honynt guddio eu hwynebau mewn cywilydd. Ceir enghraifft nodedig o hyny yn y gwaeau dychrynllyd a gyhoeddodd uwchben yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid; ac y mae yn tywallt y fath gawodydd brwmstanaidd arnynt am eu hoced a'u rhagrith, nes y mae aethau ei eiriau yn peri i ni deimlo ei ibdyn cyhoeddi melldithion "fel un ac awdurdod ganddo." Ond nid dyna nodwedd gyffredin ei weinidogaeth; ond "tywalltwyd gras ar ei wefusau"—a "geiriau grasusol a ddeuai allan o'i enau ef." Mae ei bregeth ar y mynydd, fel ei gelwir, yn enghraifft nodedig o hyny. Er fod Matthew wedi ei rhoddi yn nechreu ei Efengyl, etto nid. dyma bregeth gyntaf y Gwaredwr, ond ymddengys i rai misoedd fyned heibio ar ol dechreuad ei weinidogaeth gyhoeddus cyn ei thraddodi; bernir gan rai iddi gael ei thraddodi ar fwy nag un achlysur, o leiaf, rai rhanau o honi. Mae yn dechreu gyda rhes o wynfydau melus, a chyhoeddir y rhai hyny uwchben dosbarth o ddynion y rhai na chyfrifìr yn wynfydedig gan y byd. Mae Slier, yn ei esboniad rhagorol ar eiriau yr Arglwydd Iesu Grist, •wedi rhoddi y gwynfydau hyn mewn goleu newydd i lawer. Arferid edrych arnynt fel diarhebion, yn cynnwys eu llawn ystyr ynddynt eu hunain, ac heb un cysylltiad rhwng y naill a'r llall; ond y mae yr esboniwr a enwyd wedi dangos mai un gadwyn yw y cwbl, a bod yr holl ddolenau mewn cysylltiad anwahanol â'u gilydd; ac os cymerir un ymaith, fod yr holl gadwyn yn dyrysu. Mae yn eglur ynddynt hefyd fod yr Arglwydd Iesu yn ymgodi o radd i radd, gan ddechréu yn ngrisisaf y creadur newydd, a,c esgyn yn raddol i'r gris uchaf y gall y credadyn cryfáf ei gyrhaedd ar y ddaear. Cynnydd a dadblygiad y dyn newydd sydd ganddo, yn dechreu gyda'r " tlodion yn yr ysbryd," ac yn terfynu gyda'r mawrfrydigrwydd hwnw sydd yn galluogi dynion i edrych yn ddiystyr ar bob gwaradwydd, ac erlid, a drygair a allant ddyoddef er mwyn enw yr Arglwydd Iesu. Mae y geiriau a ddyfynir uchod yn ddarluniad o'r credadyn wedi cyrhaedd tir uchel mewn crefydd, ond nid wedi cyrhaedd y tir uchaf. "Gwyn eu Mawrth, 1872. e