Skip to main content

Y DYSGEDYDD GYDÀR HWK Y MAE Yll "ANNIBYNWR" WEDI EI UNO. Butotngîiìuactíj. EDRYCH Aft OL Y GALOff. "Cadw dy galon yn dra diesgeulus; eanys allan o honi y mae bywyd yn dyfod."— Solomon. Mae byd y meddwl yn un hynod o ddyeithr i ni, er ei fod yn agos iawn atom; ac y raae ein gwybodaeth am enaid yn gyfyng iawn, er fod enaid yn meddiant pob dyn. Beth yw yr hyn a elwir yn galon ì Faint o ystafelloedd sydd yn y meddwl dynol 1 Yn mha le y mae cynneddfau yr enaid yn cydio yn eu gilydd 1 Dyna ofyniadau anhawdd, os nad anmhosibl, eu hateb yn benderfynol a chlir. Bu yn ddadl frwd amser yn ol yn nghylch y weithred o gredu yn ei pherthynas â gwahanol gynneddfau yr enaid. Dadleuai un dosbarth yn gryf mai gweithred ydyw sydd yn perthyn yn benaj i'r pen neu y deall; tra y dywed dosbarth arall mai perthyn i'r galon yn benaj y mae credu. Cyn y gellir penderfynu y cwestiwn yna, ymddengys i ni fod eisieu penderfynu, i ddechreu, pa alluoedd sydd yn perthyn i'r pen, a phaalluoedd hefyd sydd yn perthyn i'r galon. Ac nid yn unig hyny, ond y mae yn angenrheidiol gwybod pa gysylltiad sydd rhwng galluoedd y naill a'r llall. Ond nid oes neb etto, hyd y gwyddom, wedi Hwyddo i ddwyn y pwnc yna i eglurder; a thra yr erys tywyllwch o arngylch hwnyna, ofer i ni ddysgwyl cael llawer o oleuni ar y llall. Mae yr enaid yn Uawn o ddirgeledigaethau; ac felly, y mae'n rhaid i ni foddloni ar wybod ychydig am yr hyn a elwir genym yn galon. Mae i'r gair calon yn yr ysgrythyrau ystyr eangacb nag a roddir iddo mewn ymddyddanion cyffredin,—eangach hefyd nag a roddir iddo gan athronwyr a dysgedigion duwinyddol. Yn y Beibl, y mae'r gair weithiau yn dynodi y deall, megys, " Calon anneallus." Bryd arall, golyga'r ewyllys, megys, " Calon gyndyn." Ac, mewn manau eraill, dynoda'r gydwybod, megys> "Dwysbigiad yn eu calon.'' Fe ddichon na chamgymerem wrth ddweyd fod y gair yn y Beibl, y rhan fynychaf, yn dynodi cartrefle yr ewyllys, y gydwybod, a'r serchiadau,—y ffynnonell fawr, o'r hon y tardd Awbt, 1871. P