Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yr "annibynwr" wedi ei ÜNO. îButotngîiîítaetij. UNOLIAETH DYSGEIDIAETH YE YSGRYTHYRAU. Yn ein hysgrif ddiweddaf, gwnaethom ychydig o sylwadau ar y cysondeb sydd yn nysgeidiaeth y Beibl am berson y Messi'a. Yn bresenol, ceisir dangos fod y fath Waredwr ag yw efe yn anhebgorol angenrheidiol mewn trefn i gyniiuodi dynion â Duw, i'w dwyn yn ol i wisgo ei ddelw, ac i gael mwynhad bythol o hono. Os yw dyn i gael ei achub o gwbl, rhaid fod ei achubwr yn Fab Duw, ac yn Fab y dyn; yn berson dwyfol, ac yn gwisgo natur y rhai y daeth i'w gwaredu. Mae yn eithaf eglur fod dyn yn hollol analluog i waredu ei hun allan o'r cyflwr truenus yr aeth iddo trwy bechod. Mae ei drueni yn ddeublyg. Mae yn wreiddiol araddifad o uniondeb a phurdeb o ran ei natur. Collodd y cyíiawnder gwreiddiol hwnw yn y cwymp yn Eden, ac y mae yn dyfod i'r byd yn wag o santeiddrwydd, ac wedi colli delw Duw, fel yr oedd ar y dyn cyntaf pan grëwyd ef, yn ei holl ddelweddau moesol. Ac heblaw hyny, y mae yn wrthi-yfelwr mawr a phenderfýnol yn erbyn yr Arglwydd, mewn calon a buchedd, mewn meddwl a thrwy weithredoedd drwg. Mae tyst- iolaeth yr Hen Destament a'r Newydd yn eglur ar y materion hyn. Ónd os yw dyn yn bechadur gweithredol yn erbyn yr Arglwydd, rhaid ei fod yn ddeiliad deddf; oblegid lle nid oes deddf, nid oes gamwedd. "Wedi i Adda droseddu y ddeddf foesol, a'r gorchymyn pendant a gafodd mewn ffurf o gyfammod, nid oedd mwyach yn gweithredu fel pen-cyfammodwr; ond yr oedd y ddeddf foesol yn parhau yn rheol buchedd iddo ef a'i hâd yn eu cyflwr syrthiedig. Y mae Duw yn rhwym o lywodraethu creadur rhesymol tra y bodolo, ac y mae yntau yn rhwym o ufuddhau i ewyllys ei Greawdwr a'i Lywodraethwr cyfiawn. Perffeithrwydd a ofyn cyfraith Duw mewn meddwl, amcan, a moddion i gyrhaedd yr amcan fyddo mewn golwg; mewn gair, gweithred, ac ymddygiad. Y neb a ballo mewn un pwnc o'i gofynion hi, mae hwnw yn euog o'r cwbl. Un fodfedd yn fyr o'i mesur hi, a ddwg y gweithredydd diffygiol dan gondemniad. Nid y w yn gofyn gormod— dim ond yr hyn a ddylai gael. Nis gall ofyn llai na pherffeithrwydd, heb GORrHENAF, 1871. N