Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD: gyda'r hwn y mae yh "annibynwr" wbdi ei üno. ihitotngîjîiiaetíj. GWERSI O'R CYNEYD. Y TEÜLÜ CYNTAF, Eü CREAD, A'U CWYMP. Gen. ii. 18—25, a'r iii. 1—7. Dyma yn. ddiau y dernyn pwysicaf o hanes ein teulu ni. Hyd yma, dyma yr unig hanes sydd genym am ddechreuad y teulu dynol. Mae y rhai a fynant gael eu galw yn athronwyr, yn addaw i ni hanes arall pan byddo athroniaeth y dadblygiad (ei'olution) wedi ei pherffeithio. Maent yn ddiwyd iawn gyda'r gyfundraeth hòno. Mae Darwin, Huxley, Compte, Spencer, a liuaws eraill, yn meddwl y gallant brofi fod dyn wedi dechreu yn hir iawn cyn hyn. Maent yn chwilio hen byllau mawnog Switzerland, tyrau lludw Scotland, gwelyau afonydd Ffrainc, a chreigiau sialc Lloegr, am brofion dros eu gosodiadau; a chyda llaw bu Syr Charles Lyell yn chwilio yn fanwl iawn lànau yr afon Mississippi am y dynion cyn Adda. Myn y rhan fwyaf o'r rhai hyn na chrewyd dyn o gwbl, ond mai evolvo a wnaeth (nis gwn am un gair gwell am evolve na dadblygu) o ryw greaduriaid israddol, megys mwnci, crocodil, neu rywbeth arall. Fel hyn mae wedi bod oesoedd dirifedi ar ei daith o'r amser yr oedd yn drychfil anweledig i'r llygaid noeth, hyd nes dyfod yn ddyn. Ond mae y pethau a gynnygir i ni fel profion yn tnethu profi dim. Hyd yma, mentraf ddweyd nad oes un math o brawf fod dyn ar y ddaear cyn Adda. Dichon y barna ambell un mai ffolineb yw ailadrodd pethau fel hyn; ond cofier, mae y pethau hyn yn gyffredin mewn llyfrau Saesonaeg, ac felly yn eglur i bawb a fedrant ddar- llen yr iaith hòno. Gan nad oes genym un hanes arall am ein dechreuad, mae yn sicr o fod yn bwysig i ni geisio deall hon. Mae yn nglŷn â'r hanes yma luaws o gwestiynau ydynt yn annhraethol bwysig, oblegid ar y dull yr atebir hwy yr ymddibyna ein hatebiad i bron bob cwestiwn duwinyddol trwy yr oesau. Ŷ peth cyntaf sydd yn d'od o'n blaen yn yr hanes yw Adda yn chwilio am wraig, a'i ddedwyddwch mawr wedi ei chael. Wedi hyny cawn y darpariadau oedd Duw wedi wneud Mehefin, 1871. l